Tuesday 23 March 2021
Cyfri’r dyddiau hyd COP: 4 Ffordd y mae Niwclear Yn Chwarae Ei Ran Dros Ynni Glân
Gan Dr Fiona Rayment, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg LNC (CSTO)
Mae’r DU yn paratoi i lywyddu’r 26ain Cynhadledd y Pleidiau ar Newid Hinsawdd (COP26) yn Glasgow mis Tachwedd hwn. Bydd y digwyddiad yn foment dyngedfennol arall i arweinwyr byd-eang i ymdrin â un o heriau mwyaf y byd – diogelu adnoddau naturiol hanfodol ein planed.
Gyda thargedau cyfreithiol gorfodol yn y DU ar gyfer cyrraedd Sero-Net allyriadau carbon erbyn 2050, a mwy na 120 o wledydd eraill yn ymgyrraedd at yr un targed, mae ffordd bell iawn i fynd eto. Ni ddylai unrhyw un ohonom danamcangyfrif maint yr her hon.
Fel y mae COP26 yn brysur nesáu, mae’n cadw’r ffocws ar yr agenda ynni glân a sut yr ydym ni i gyd – o lywodraethau a diwydiant, i arbenigwyr a’r cwsmer cyffredin – yn chwarae ein rhan.
Yn LNC, fel labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear, yr ydym yn benderfynol o wneud gwahaniaeth – oherwydd heb niwclear, mi fydd yn sialens wirioneddol i’r DU a gwledydd ledled y byd i gyrraedd y targed hwn ar amser.
Ond sut?
Mae pŵer niwclear eisoes yn darparu 20% o drydan y DU, a 40% o’i drydan glân. A, gyda’i Gynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod fod technolegau niwclear newydd a datblygedig yn cynnig ateb i gyflawni ein nod Sero- Net ar amser ac yn fforddiadwy.
Gyda llai na 30 mlynedd ar ôl hyd 2050, mae pob blwyddyn yn cyfrif. Felly, dyma fy mhedwar prif beth i edrych amdanynt o’r sector niwclear ar gyfer 2021:
- Ailgyflenwi ein cyfleusterau niwclear presennol
Disgwylir i bob un ond un o’n gweithfeydd pŵer niwclear y DU ddod oddi ar-lein o fewn y naw mlynedd nesaf. Golyga hyn y bydd bron i un rhan o bump o gyflenwad trydan y DU yn diflannu, fel y mae’r galw am ynni glân yn debygol o gynyddu.
Mae gweithfeydd niwclear ar raddfa fawr yn darparu trydan isel mewn carbon sylweddol, gyda safle EDF Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf ar fin pweru o gwmpas chwe miliwn o gartrefi. Gyda’r gwaith hwn yn cael ei adeiladu, mae gan y Llywodraeth gynlluniau i fynd ag opsiynau gigawatt ymhellach. Yn ei Bapur Gwyn Ynni, Pweru ein Dyfodol Sero-Net, mae’r Llywodraeth wedi ymroi i gael o leiaf un prosiect niwclear ar raddfa fawr hyd at bwynt y Penderfyniad Buddsoddi Terfynol (FID) erbyn diwedd y Senedd hon, dan amodau gwerth ariannol a phob cymeradwyaeth perthnasol.
Mae hyn yn gam sylweddol – ond yn un hynod bwysig – i ddarparu diogelwch ychwanegol gan opsiwn ynni carbon-isel profedig a dibynadwy.
2. Symud i ddull modwlaidd
Nid safleoedd ar raddfa fawr yw ystyr adeiladu niwclear newydd bellach; mae’r sector wedi bod yn edrych ar ddulliau newydd o ailfeddwl ac ailgyflenwi y dechnoleg bresennol. Mae Adweithyddion Modwlaidd Bach (SMR) yn cynnig cyfle i newid y broses weithgynhyrchu mewn ffordd sy’n gwneud y gwaith adeiladu yn gynt ac yn haws ei ddyblygu – gan gadw costau cyfalaf i lawr.
Mae Rolls-Royce yn arwain consortiwm Adweithyddion Modwlar Bach y DU gan gymryd y dull arloesol hwn ymlaen a chreu opsiwn sy’n cystadlu’n ariannol i’r DU ar gyfer marchnad fyd-eang. Fel aelodau balch o’r grŵp hwn, mae ein tîm wedi bod yn darparu arbenigedd ymchwil a datblygu; i ganiatáu sefydlu seiliau a fydd yn troi’r cysyniad cyffrous hwn yn gynnyrch marchnad llawn.
Mae’r rhaglen yn mynd yn ei blaen yn raddol – gyda’r cam cyntaf yn debygol o gael ei gwblhau’n llwyddiannus cyn yr haf. Gyda chynlluniau’n symud yn gyflym, gallai’r Adweithyddion Modwlar Bach hyn fod yn cynhyrchu pŵer i’r rhwydwaith erbyn 2030.
Mae’n seiliedig ar dechnoleg sydd wedi’i phrofi, ond ar raddfa lai ac yn harneisio buddion dull modwlar.
3. Meithrin y sgiliau a’r galluoedd ar gyfer technolegau datblygedig
Mae posibiliadau technolegau niwclear datblygedig yn drawsffurfiol. Ond mae arnom angen y galluoedd gwyddonol a gweithredol – gwybodaeth a sgiliau – i fod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn a sicrhau ein dyfodol Sero-Net.
Yma yn LNC, mae ein pobl wedi bod yn arwain ymdrech arloesol i wneud hyn – drwy gynyddu ein dealltwriaeth o danwydd niwclear datblygedig a chylchredau tanwydd a chynhwyso’r DU gyda’r sgiliau, y dechnoleg a’r rhwydweithiau cywir.
Dan arweiniad LNC fel rhan o Raglen Arloesi Ynni £ 505m yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), mae y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig wedi bod yn ddull cydweithredol unigryw ar gyfer y sector. Wedi’i lansio yn 2019, y mae wedi cyfuno isadeiledd niwclear LNC sy’n arwain y byd gyda sgiliau a galluoedd mwy na 100 o sefydliadau – o brifysgolion i SME – ar draws o leiaf 10 gwlad.
Gyda’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig yn dod i ddiwedd ei gylch cyllido yr haf hwn, yr ydym yn myfyrio ar ei effaith a’r hyn a etifeddwyd yn ei sgîl: gan ailgynnau gallu tanwydd cynhenid y DU. Yr ydym bellach mewn sefyllfa, fel sector, i hybu yr hyn sydd ei angen i ddatblygu technolegau niwclear datblygedig.
Ond mae’n bwysig nad ydym yn colli momentwm, nac yn colli’r cyfle. Y cam nesaf a hanfodol yw sicrhau arddangosydd adweithydd datblygedig ar gyfer y DU.
4. Y tu hwnt i drydan – gwneud yn fawr o botensial hydrogen ‘gwyrdd’
Ar gyfer Sero-Net, bydd angen i’r DU wneud mwy na datgarboneiddio ein fectorau trydan, proses sy’n arwain at wres a hydrogen.
Ar hyn o bryd, y dull mwyaf economaidd o gynhyrchu hydrogen yw llosgi tanwydd ffosil. Mae hydrogen ‘gwyrdd’ fel y’i gelwir yn dal i fod yn opsiwn drud wrth ddefnyddio’r dulliau presennol – defnyddio electrolysis i drawsnewid trydan adnewyddadwy yn nwy – sy’n costio tua dwy i dair gwaith yn fwy na hydrogen ‘llwyd’.
Ond fe wyddwn y gall niwclear hefyd gynhyrchu hydrogen.
Y gwaith sydd gennym ar hyn o bryd yw dyfalu sut y gellid ei wneud yn fforddiadwy ac yn gyflym. Yn LNC, mae ein gwyddonwyr yn gweithio gyda’r Llywodraeth a phartneriaid eraill i gael datrysiad. Fel yr amlinellwyd yn ddiweddar ym Map Ffordd Hydrogen y Cyngor Diwydiant Niwclear (NIC), gwyddwn y gall niwclear ddarparu cymaint â thraean o’r hydrogen glân mae’r DU ei angen ar gyfer Sero-Net.
Does yna ddim ateb perffaith ar gyfer ein cymysgedd ynni, ond yr ydym yn edrych am y cyfuniad gorau posibl o dechnolegau. O estyniadau i’n gweithfeydd graddfa fawr presennol, i Adweithyddion Tymheredd Uchel (HTRs) newydd, mae hwn yn faes hynod addawol a all ein cynorthwyo i chwyldroi ein sector ynni rhwng nawr a 2050.
Fel bob amser, mae’n fater o ddefnyddio pob arf sydd gennym. Buddsoddi yn ein gwyddonwyr. A chydweithio i gyrraedd llinell derfyn Sero-Net.