National Nuclear Laboratory

Hydwythedd a Gallu Alffa

Y mae’r rhaglen i ategu a mireinio Hydwythedd a Gallu Alffa (ARC) cenedlaethol yn gydweithrediad hir dymor rhwng Llywodraeth y DU a’r sector niwclear, gan ddod â’r sefydliadau canlynol ynghyd:

  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS)
  • Awdurdod Digomisiynu Niwclear
  • Sellafield Cyf.
  • Safle Adfer Dounreay Cyf.
  • Sefydliad Arfau Atomig
  • Labordy Niwclear Cenedlaethol
  • Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
  • Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear

Mae’r rhaglen yn ceisio cynnal a mireinio galluoedd sgiliau byd-enwog alffa y DU; y rhai sy’n ofynnol i weithio ar raglenni sy’n ymwneud â defnyddiau allyrru alffa.

Mae hyn yn cynnwys defnyddiau sy’n bodoli yn naturiol fel wraniwm, thoriwm, a radiwm yn ogystal ag elfennau wedi eu creu gan ddyn fel plwtoniwm ac americiwm.

Mae gan Hydwythedd a Gallu Alffa dri amcan craidd:

Cenhadaethau’r dyfodol

Sicrhau bod gan y DU y gallu a’r cymhwysedd i lansio rhaglenni alffa’r dyfodol trwy flaenoriaethu sectorau a pharatoi adnoddau.

Ymhlith yr enghreifftiau mae lansio rhaglen adfer alffa well a darparu strategaeth rheoli plwtoniwm Llywodraeth y DU.

Arweinyddiaeth fyd-eang

Sicrhau fod y DU yn cynnal ei safle fel arweinydd byd-eang wrth ddarparu a rheoli rhaglenni alffa cymhleth ar raddfa fawr.

Un elfen hanfodol o’r gwaith hwn yw cynnal a datblygu gweithlu gyda’r sgiliau arbenigol angenrheidiol

Mae creu cyfleoedd i gryfhau sgiliau gweithwyr presennol yn elfen bwysig o hyn ac felly mae gweithlu technegol Hydwythedd a Gallu Alffa yn ceisio cynigion ar gyfer:

  • ymyriadau technegol
  • bwrsariaethau teithio
  • secondiad i sefydliadau partner Hydwythedd a Gallu Alffa

Gallwch gael manylion ar sut i ymgeisio yma