National Nuclear Laboratory

CINDe

Sefydlwyd Canolfan Digomisiynu Niwclear Arloesol (CINDe) yn 2017, dan arweiniad Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Sellafield Cyf, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Cymbria ac wedi’i leoli yn LNC Workington, Cymbria.

Beth yw CINDe?

Canolbwynt PhD yw’r Ganolfan Digomisiynu Niwclear Arloesol (CINDe) gyda’r ymchwilwyr yn gwneud eu prosiectau tra’u bod wedi’u lleoli’n bennaf yn niwydiant, a chydag arbenigedd academaidd o fewn gafael o fewn y sector prifysgolion.

Beth yw bwriad CINDe?

Bwriad y Ganolfan CINDe yw darparu sylfaen ac arloesi ychwanegol i anghenion Ymchwil a Datblygu cenhadaeth digomisiynu Sellafield a’r diwydiant niwclear ehangach trwy:

  • Ddod ag academyddion blaenllaw, LNC a Sellafield ynghyd i gyflawni Ymchwil a Datblygu arloesol i gefnogi’r genhadaeth digomisiynu cenedlaethol.
  • Ganiatáu mynediad i gyfleusterau LNC i bartneriaid prifysgol
  • Ganiatáu rhyngweithio mwy rheolaidd rhwng y partneriaid academaidd a’r diwydiant i alluogi i ddatblygu perthynas waith fwy effeithiol
  • Wella enw da technoleg trwy gyhoeddi cyfnodolion gwyddonol o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid.
  • Ddod â thalent newydd i’r diwydiant ac adeiladu sgiliau Ymchwil a Datblygu niwclear y genhedlaeth nesaf yng Ngorllewin Cymbria

Ar hyn o bryd mae gan CINDe 13 ymchwilydd PhD ar waith yn Workington, gyda recriwtio parhaus ar gyfer carfan arall i ddechrau yn Hydref 2019. Mae’r tîm yn gymuned egnïol o ymchwilwyr sy’n cefnogi ei gilydd, ac yn gweithio ar brosiectau PhD perthnasol i gefnogi gweithrediadau digomisiynu yn y diwydiant niwclear, gyda phwyslais penodol ar heriau Sellafield. Oherwydd amrywioldeb yr heriau digomisiynu, mae tîm CINDe yn rhyngwladol ac yn amlddisgyblaethol gan ddod ag amrywiaeth gyfoethog o arbenigedd a safbwyntiau i fynd i’r afael â’r materion digomisiynu.

Darllenwch am lansiad CINDe yma.