National Nuclear Laboratory

Christopher Cunliffe

  • Prifysgol Lerpwl – Ysgol Peirianneg
  • Goruchwyliwr Academaidd: David Dennis
  • Goruchwyliwr Diwydiannol: Jonathan Dodds
  • Llinell amser y Prosiect: Hydref 2017 – Medi 2021
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Dynameg Hylifol, Cydberthynas Llif, Hydroligion Sianel Agored
  • Cymwysterau Academaidd: Baglor mewn Peirianneg a Meistr yn y Gwyddorau – Peirianneg – Prifysgol Lerpwl

ARCHWILIO CYDBERTHYNAS CLUDIANT HYLIFOL MEWN PIBELLAU WEDI’U LLENWI’N RHANNOL.

Mae fy ymchwil yn seiliedig ar optimeiddio cludiant hylif mewn cyfluniad pibell wedi’i llenwi’n rhannol yn benodol i weithrediadau digomisiynu niwclear. Mae ffactorau fel natur peryglus yr hylif a’r angen i leihau rhwystrau a gollyngiadau, yn golygu bod pwyslais ar gyfraddau llif cyfeintiol isel gyda dibyniaeth ar dechnegau cyflyru llif goddefol fel llifoedd sy’n cael eu gyrru gan ddisgyrchiant. Fel canlyniad, mae’r cyfluniad sydd wedi’i lenwi’n rhannol yn dod yn fwy cyffredin. Er mwyn ehangu terfynau gweithredol y dull cludo hwn, mae angen gwybodaeth o’r paramedrau sylfaenol sy’n nodweddu ymddygiad a dynameg y llif a sut mae’r paramedrau hyn yn newid mewn perthynas â’i gilydd. Mae rig arbrofol wedi’i adeiladu i fodelu’r drefn llif a darparu data arbrofol i leihau gwastraff a gynhyrchir, lleihau gofynion storio hir dymor a lleihau costau cysylltiedig a chanlyniadau amgylcheddol. Mae cael fy lleoli mewn diwydiant wedi rhoi amryw o gyfleoedd i mi fel adeiladu a gweithredu rig arbrofol masnachol ar raddfa fawr a chymorth gyda phrosiectau masnachol sy’n berthnasol i’m hymchwil. Rwyf hefyd yn hoff o gymhwysiad clir ‘byd go iawn’ fy ymchwil sy’n cael ei gynnig gyda PhD diwydiannol.

Cynnyrch

Poster y Gynhadledd: Cunliffe, C; Dennis, D; Dodds, J; Fluid Transport Correlations in Partially Filled Pipes for Nuclear Decommissioning (2018) Poster a gyflwynwyd yng Nghynhadledd UK Fluids, Manceinion, y Deyrnas Unedig

Cunliffe, C; The Benefits of Collaboration: LabVIEW Software Development for HALES (2019)