National Nuclear Laboratory

Edward MacNeil

  • Prifysgol Manceinion – Cyfadran Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPS), Ysgol Peirianneg Mecanyddol, Awyrofod a Sifil (MACE)
  • Goruchwylwyr Academaidd: Andrew Weightman, William Heath
  • Goruchwyliwr Diwydiannol: Colin Fairbairn
  • Llinell amser y Prosiect: Hydref 2018 – Hydref 2021
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Roboteg Meddal, Tyfu Robotiaid, Systemau Rheoli Electronig
  • Cymwysterau Academaidd: Meistr mewn Peirianneg Mecanyddol – Prifysgol Manceinion, Cysylltiedig a Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)
  • Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn

ROBOTEG MEDDAL AR GYFER DIGOMISIYNU NIWCLEAR

Edward ydw i ac rwy’n ymchwilio roboteg meddal i’w defnyddio mewn Digomisiynu Niwclear. Astudiais radd meistr integredig ym Manceinion, lle dechreuodd fy niddordeb ym maes peirianneg Niwclear a roboteg fel ei gilydd. Robotiaid meddal yw robotiaid wedi eu creu gyda defnyddiau parod i blygu nad ydynt yn ymddwyn gyda nodweddion sy’n diffinio roboteg traddodiadol. Y maent yn aml yn strwythurau plastig sy’n dadffurfio o’u cyffwrdd, ac yn cydymffurfio gyda’r amgylchedd yn hytrach na’i niweidio. Mae hyn yn caniatáu iddynt fod yn fwy hyblyg a mwy amlbwrpas. Mae gen i gyfle arbennig i astudio roboteg feddal, maes sy’n parhau i sefydlu ei ffiniau, o fewn amgylcheddau peryglus sy’n anodd yn aml i roboteg draddodiadol eu llywio. Y mae hyn wedi arwain at faes ymchwil rhyfeddol o agored i mi, a digon o ddefnydd diddorol a gwreddiol ar gyfer y diwydiant niwclear yn dod ohono. Yn benodol, byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygiad roboteg chwyddedig, wedi eu rheoli’n niwmatig i archwilio amgylcheddau anhysbys.