National Nuclear Laboratory

Rodosthenis Charalampous

  • Prifysgol Manceinion- Ysgol Peirianneg Trydanol ac Electronig
  • Goruchwylwyr Academaidd: Peter R Green, Barry Lennox
  • Goruchwyliwr Diwydiannol: Neil Cockbain
  • Llinell amser y Prosiect: Hydref 2018 i Mawrth 2022
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Cyfathrebu tanddwr, lleoleiddio, acwsteg cyfathrebu
  • Cymwysterau Academaidd: Baglor mewn Peirianneg Trydanol ac Electronig – Prifysgol Manceinion
  • Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn

CYFATHREBU A LLEOLEIDDIO DRWY DDEFNYDDIO ACWSTEG TANDDWR

Mae fy ymchwil yn ymwneud ag acwsteg cyfathrebu a lleoleiddio tanddwr o fewn amgylcheddau cyfyng, heb strwythur. Cydnabyddir yn eang bod cyfathrebu trwy sianeli acwstig tanddwr, a elwir hefyd yn sianeli hydroacwstig, yn arbennig o heriol, ac mae gweithredu o fewn amgylchedd cyfyng, heb strwythur yn ychwanegu at yr her. Drwy gyfrwng fy ymchwil, bydd system gyfathrebu a lleoleiddio acwstig tanddwr a all weithredu mewn gofod maint pwll nofio Olympaidd yn cael ei gynllunio, ei gynffurfio a’i werthuso drwy arbrawf. Tra mae’r ymchwil yn ffocysu ar gyfathrebu acwstig, bydd yr ymchwil hefyd yn archwilio integreiddio Radio-amledd (RF) neu gyfathrebu Optegol i gefnogi ac ehangu’r system acwstig. Bydd y system wreiddiol yn gallu cael ei hôl-ffitio i Gerbydau a Reolir o Bell (ROVs) a’i hymgorffori mewn cynlluniau Cerbydau Awtonomaidd Tanddwr yn y dyfodol.