National Nuclear Laboratory

Tasveer Ahmed Mubasher

  • Prifysgol Manceinion – Ysgol Cemeg
  • Goruchwylwyr Academaidd: Laura Leay, Samuel Shaw
  • Goruchwylwyr Diwydiannol: Ed Butcher, Martin Hayes
  • Llinell amser y Prosiect: Medi 2017 i Medi 2021
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Sment a Choncrit, Geopolymerau, Defnyddiau Alcaliau – Actifedig
  • Cymwysterau Academaidd: Meistr mewn Peirianneg – Peirianneg Meddygol – Prifysgol Manceinion, Aelod Cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (AMIMechE)
  • Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn, ResearchGate

GWERTHUSO DEFNYDD GEOPOLYMER NEWYDD AR GYFER TRIN GWASTRAFF NIWCLEAR

Ar hyn o bryd, yn y DU y dull a ddefnyddir amlaf i lonyddu ambell wastraff niwclear lefel ganolraddol yw drwy ddefnyddio sment Portland (wedi’i gyfuno â Defnyddiau Smentaidd Atodol (SCMs) fel Sorod ffwrnais Chwyth (BFS) neu Lludw Tanwydd Maluriedig – fflacs). Mae nifer o heriau’n gysylltiedig â’r defnydd presennol o Ddefnyddiau Sment Atodol oherwydd y newidiadau yn y cynhyrchu, argaeledd ac ardystiad Sorod Ffwrnais Chwyth neu Ludw gan arwain at broblemau gyda chael cyflenwad gwarantedig gyda chysondeb cyfansoddiadol ac elfennol. Felly, gall geopolymerau gynnig manteision dros systemau sment Portland confensiynol o safbwynt llwytho, cyflenwi a phrosesu gwastraff ar gyfer rhai ffrydiau gwastraff a fydd angen triniaeth yn ystod gweithrediadau digomisiynu. Yn yr astudiaeth hon, mae’r defnydd o geopolymerau di-galsiwm yn ei hanfod ac yn deillio o fetacaolin pur yn cael ei archwilio ac yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio gwahanol fformwleiddiadau o geopolymerau i lonyddu ffrydiau gwastraff lefel ganolradd problemus (ILW). Bydd yr ymchwil hwn yn cael ei gynnal drwy’r rhaglen CINDe, gan fod hyn yn caniatáu i mi gael fy ymgorffori yn y diwydiant niwclear wrth gynnal yr ymchwil.

Cynnyrch

Conference paper: Mubasher T, Leay L, Butcher E and Hayes M. (2018). Evaluation of Novel Geopolymer Material for Nuclear Waste Treatment. Poster session presented at NUWCEM 2018, Avignon, France.