National Nuclear Laboratory

Ôl-Ddoethuriaeth

O YMCHWILYDD I ARBENIGWYR GWYDDONIAETH NEU BEIRIANNEG: CYNORTHWYO GWYDDONWYR GYRFA CYNNAR I ROI SGILIAU ACADEMAIDD AR WAITH MEWN AMGYLCHEDD DDIWYDIANNOL

Ydych chi’n barod i barhau i ddatblygu eich sgiliau ymchwil mewn amgylchedd masnachol?

A fuasech yn hoffi dechrau’r siwrnai i ddod yn un o’n Harbenigwyr Materion Pwnc yn y dyfodol?

Mae enw da cenedlaethol a rhyngwladol LNC wedi’i ennill drwy ymdrech. Ar ein tîm mae rhai o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar:

• Gweithrediadau niwclear
• Rheoli gwastraff a digomisiynu
• Technoleg tanwydd, adweithydd ac ailbrosesu

Mae’r wybodaeth a’r gallu hwn yn cael ei drawsnewid i fuddiannau yn y byd go iawn yn y byr dymor a’r hir dymor fel ei gilydd ac ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Mae buddion ein gwaith yn gwella cymdeithas am genedlaethau.

Yr ydym ni’n edrych am bobl gyda PhD neu brofiad ôl-ddoethuriaeth cynnar (er y derbynnir ceisiadau cyn graddio os yw eich traethawd ymchwil yn cael ei baratoi neu wedi cael ei gyflwyno ac yr ydych yn aros am eich viva). Yr ydym yn chwilio am PhD mewn meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg (STEM) sy’n dyheu am adeiladu ar eu harbenigedd i gynorthwyo i lunio dyfodol ein diwydiant a chefnogi ein gweledigaeth o ddarparu gwyddoniaeth niwclear er budd cymdeithas.

Felly, mi fuasem ni’n hoffi i chi ystyried a allai’r sgiliau yr ydych wedi eu mireinio yn y byd academaidd gael eu harneisio i ddarparu datrysiadau arloesol i rai o broblemau mwyaf heriol y diwydiant a’n cymdeithas. Cynorthwywch ni i wneud y dyfodol yn fwy diogel, glân a gwyrdd!

Ar hyn o bryd yr ydym yn edrych i gynyddu Arbenigwyr Materion Pwnc yn y meysydd a ganlyn (tra bod profiad o’r meysydd hyn yn fanteisiol, nid yw’n ofynnol er mwyn ymgeisio):

  • Gwyddor Materol, yn arbennig ym meysydd opteg electronig a gwyddoniaeth plwtoniwm
  • Cemeg, yn arbennig ym meysydd ymwahanu Isotop a modelu cemeg adweithydd

Cynllun Datblygu Ôl-ddoethuriaeth LNC

Mae’r LNC yn sylweddoli fod academia a diwydiant yn amgylcheddau gwahanol iawn ac o ganlyniad mae ein Cynllun Datblygu Ôl-ddoethuriaeth yn ceisio llyfnhau’r trawsnewid rhyngddynt tra’n cefnogi’r camau cyntaf tuag at ddod yn Arbenigwr Materion Pwnc.

O’r diwrnod cyntaf, bydd gennych rôl mewn tîm technegol sy’n ymwneud â darparu prosiectau i gwsmeriaid go iawn. Mae hyn yn caniatáu i chi weld yn glir werth eich sgiliau a’ch gwybodaeth i’n diwydiant a thrwy helaethiad ein cymdeithas. Mae’r Cynllun Datblygu Ôl-ddoethuriaeth yn rhedeg ochr yn ochr â’ch rôl, gan ddarparu y gofod a’r sgiliau i chi ddatblygu mewn amgylchedd masnachol tra’n cynorthwyo chi i benderfynu sut i gynyddu eich arbenigedd technegol.

Mae ein rhaglen ddwy flynedd wedi ei gynllunio i roi:

  • Cyflwyniad i LNC fel eich bod yn deall lle yr ydym ni o fewn cyd-destun ehangach y diwydiant niwclear a sut yr ydym yn gweithio
  • Cyflwyniad i’r arbenigedd technegol sydd wrth wraidd ein busnes fel eich bod yn deall sut mae’ch arbenigedd yn cydberthyn i’n portffolio technegol ehangach
  • Llwybr clir o ddatblygiad technegol
  • Ymwybyddiaeth fasnachol o holl weithrediadau’r LNC
  • Mynediad i raglen o hyfforddiant wedi’i theilwra lle mae’ch profiad blaenorol yn cyfrif
  • Cyfle i rwydweithio gyda arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol ar ganol eu gyrfa
  • Mentora i ennill statws siartredig gyda’r corff proffesiynol o’ch dewis
  • Mentor Arbenigwr Materion Pwnc
  • Dewis o weithgareddau datblygu wedi’u teilwra i chi a’ch uchelgais gyrfaol
  • Aelodaeth o garfan o weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i ddarparu cefnogaeth o ddatblygu o fewn y cwmni

Gobeithiwn fod rhagweld eich dyfodol gyda ni yn eich cyffroi ac y byddwn yn clywed gennych yn fuan.

Ymgeisiwch yn www.nnl.co.uk/careers

Mae gan LNC weledigaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant (ED&I) lle mae LNC yn anelu i fod yn weithle gynhwysol sy’n denu talent amrywiol trwy bolisïau a gweithdrefnau tryloyw a chyfartal. Mae arnom eisiau i chi a’r cymysgedd amrywiol o bobl a gyflogwn, cwsmeriaid a wasanaethwn a rhanddeiliaid yr ydym ni’n dylanwadu arnynt i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Yr ydym yn annog diwylliant gweithle lle gall pawb ffynnu gydag ymdeimlad o berthyn.