National Nuclear Laboratory

Gradd Wyddonol

Fel Gwyddonydd niwclear, byddwch yn gweithio ar reng flaen y rhaglen ymchwil a datblygiad niwclear sy’n gwneud LNC yn un o arweinwyr byd-eang ym maes ynni niwclear.

Mae angen technegwyr gwyddonol i brofi a graddnodi offer yn ogystal â chynnal ymchwiliadau a dadansoddi samplau. Byddwch yn gweithio gyda sylweddau peryglus, yn dysgu am weithdrefnau iechyd a diogelwch ac arferion gweithio diogel.

Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?

Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer eich Prentisiaeth Wyddonol byddwch yn dilyn Safon Technegydd Labordy ar Lefel 3. Ar ôl cwblhau y safon hon, yn ddibynnol ar berfformiad, fe fyddwn yn eich cofrestru ar safon prentisiaeth Gwyddonydd Niwclear ar lefel 6 i gwblhau eich Gradd Cemeg. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn:

Level 3 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-laboratory-technician  

Level 6 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-nuclear-scientist-and-nuclear-engineer

Byddwch yn dysgu am:

  • Graddnodi
  • Samplu a titradu
  • Cynnal archwiliadau a phrofion
  • Asesu data ac ysgrifennu adroddiadau
  • Ymdrin â data technegol
  • Datblygu technegau cyflwyno

Yn dilyn eich anwythiad byddwch yn ymuno â’ch tîm technegol am 4 diwrnod yr wythnos yn ein cyfleusterau ac yn mynychu’r Coleg ar sail rhyddhad undydd.

Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?

  • Byddwch yn ymwybodol o reoliadau iechyd a diogelwch
  • Byddwch yn gwella eich sgiliau perthynas waith ar draws y cwmni ac o fewn eich timau prosiect
  • Byddwch yn ymdrin â gwybodaeth ac yn defnyddio cyfrifiaduron
  • Rydych yn debygol o weithio gyda sylweddau peryglus
  • Byddwch yn rheoli data ac yn creu adroddiadau
  • Byddwch yn llunio cyflwyniadau ar waith yr ydych wedi’i gwblhau

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?

Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o safonau prentisiaeth Technegydd Labordy Lefel 3. Pe baech yn parhau ymlaen at eich safon prentisiaeth Gwyddonydd Niwclear Lefel 6 byddwch yn astudio ar gyfer gradd Baglor mewn Cemeg.

Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?

Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Wyddonol yn ein safleoedd ym Mhreston a Sellafield.

Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?

Bydd gennych gefndir academaidd da yn barod pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Fe ddylech fod wedi ennill 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Byddwch ar y trywydd iawn i gyflawni neu wedi cyrraedd Lefel A ar isafswm marc C (rhaid i un ohonynt fod mewn Cemeg) neu BTEC mewn Cemeg ar radd Llwyddo.

Yr ydym yn chwilio am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd eisiau bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?

Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.