National Nuclear Laboratory

Profiad Gwaith

Yn sgîl y sefyllfa Coronafirws bresennol, yr ydym wedi penderfynu canslo ein rhaglen profiad gwaith 2020. Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, bydd rhywun mewn cysylltiad â chi.

Os ydych yn astudio mewn ysgol neu goleg ar hyn o bryd a bod gennych ddiddordeb mewn gyrfa STEM, gall ein rhaglen profiad gwaith gynnig gwir ddirnadaeth o’r diwydiant niwclear a’r cyfle i chi ddysgu mwy am lwybrau gyrfaol yn y dyfodol.

Mae ein rhaglen wedi’i hachredu yn y Wobr Arian gan y Cynllun Cadlanciau Diwydiannol – achrediad cenedlaethol wedi’i arwain gan ddiwydiant ac wedi ei gynllunio i wella profiadau yn y gweithle. Gellir cael gwybodaeth bellach am y cadlanciau Diwydiannol a’r wobr arian yma: https://www.industrialcadets.org.uk

Pam y dyliwn i ystyried profiad gwaith?

Mae lleoliadau gwaith yn caniatáu i chi ennill profiad ymarferol go iawn mewn amgylchedd gwaith gan ddarparu mwy o ddirnadaeth i ddiwydiant, sefydliad a rôl. Mae cyflogwyr hefyd yn edrych i weld a oes gennych unrhyw brofiad gwaith fel rhan o geisiadau am unrhyw swydd, felly bydd unrhyw brofiad sydd gennych yn eich cynorthwyo yn y broses o sicrhau swydd.

Beth mae ein rhaglen profiad gwaith yn ei olygu?

Mae’r wythnos profiad gwaith wedi ei gynllunio i roi syniad i chi o sut brofiad yw gweithio yn y diwydiant niwclear. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i ymgymryd â phrosiect a fydd yn cynnwys gweithgareddau ar draws y gwahanol feysydd a disgyblaethau yn LNC. Ar ôl cwblhau’r gwaith prosiect cewch gyfle i gyflwyno’ch canfyddiadau a’ch casgliadau o flaen cynulleidfa fechan. Bydd sgyrsiau yn cael eu rhoi gan arbenigwyr y diwydiant ar ystod eang o destunau i gynorthwyo i chi ddysgu mwy am ein diwydiant. Byddwch hefyd yn cael cylchdaith o amgylch cyfleusterau a Labordai’r LNC. Yn ogystal, bydd siawns i chi siarad â graddedigion a phrentisiaid, i archwilio y gwahanol lwybrau gyrfaol sydd ar gael i chi ar draws y diwydiant niwclear. I wella eich cyflogadwyedd, bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys canolfan asesu ymarfer a sesiwn holi ac ateb gyda aelodau o Dîm Gyrfaoedd Cynnar y LNC.

Yn lle mae’r rhaglen profiad gwaith LNC yn digwydd?

Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg rhaglenni yn ein safleoedd yn Warrington, Preston a Workington. Yn anffodus nid ydym yn cynnal rhaglen yn ein cyfleusterau deheuol ar hyn o bryd.

Am ba hyd mae’r profiad gwaith?

Ar gyfer pob safle mae’r rhaglen profiad gwaith am 1 wythnos. Oherwydd natur y diwydiant mae gennym nifer o reoliadau diogelwch nad ydynt yn caniatáu inni ddarparu profiad am fwy na’r cyfnod hwn. Fodd bynnag, yr ydym yn sicrhau eich bod yn cael gwir ddirnadaeth o’n busnes tra’ch bod chi yma.

Ydw i’n gymwys ar gyfer y rhaglen profiad gwaith?

Fel rhan o’n rhaglen profiad gwaith yr ydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar safon TGAU a Lefel A / BTEC. Os hoffech chi gael eich hystyried am le ar ein rhaglen mae’n rhaid i chi:

  • Ar drywydd cael 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
  • Ar drywydd cael Lefelau-A ar isafswm marc Llwyddo neu BTEC ar radd Llwyddo