National Nuclear Laboratory

Busnes A Gweinyddiaeth

Yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, mae ein timau Busnes a Gweinyddiaeth yn darparu cefnogaeth cefn swyddfa manwl a chynhwysfawr i sicrhau’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd economaidd, cyfreithiol a gweinyddol. Mae prentisiaeth Busnes a Gweinyddiaeth LNC yn darparu amrediad helaeth o hyfforddiant o ddyletswyddau gweinyddu busnes sylfaenol i sgiliau sy’n angenrheidiol i reoli timau.

Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?

Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn arddangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Busnes a Gweinyddiaeth byddwch yn dilyn safon sy’n addas i’r maes yr ymunwch â hi. Mae prentisiaid sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn dilyn gyrfaoedd mewn gweinyddiaeth gyffredinol yn ogystal â meysydd arbenigol fel Cyllid, Adnoddau Dynol a Chaffael. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn: https://www.gov.uk/guidance/search-for-apprenticeship-standards

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?

Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o’r safonau prentisiaeth a ddewiswyd ar eich cyfer chi.

Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?

Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Fusnes yn ein safleoedd ym Mhreston, Warrington a Cumbria.

Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?

Bydd gennych gefndir academaidd da pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Dylech fod wedi cael neu fod ar y trywydd iawn i gyflawni 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Yr ydym yn edrych am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd yn dymuno bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.

Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?

Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.