Yn LNC yr ydym wedi ein hymrwyo’n llwyr i bob agwedd o gydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiad (C A + Ch). Mae’r dudalen hon yn darparu arolwg byr o sut yr ydym yn ymdrin â C A +Ch, ond gellwch ddarllen y strategaeth gyfan yn yr adran cyhoeddiadau drwy glicio ar y ddolen gyswllt hon.
CYDRADDOLDEB
Yr ydym yn ymwybodol nad yw trin pawb yn yr un ffordd yn golygu o anghenraid fod pawb yn cael triniaeth deg. Mae creu cyfleoedd cyfartal yn golygu fod gan bobl anghenion gwahanol sydd yn gofyn am driniaeth ac ymatebion gwahanol. Creu maes chwarae gwastad ble mae pawb yn cael eu trin yn deg yw cydraddoldeb a lle mae dilyniant gyrfaol wedi ei sylfaenu’n gyfan gwbl ar deilyngdod. Drwy ganolbwyntio ar gydraddoldeb, yr ydym yn cydnabod fod rhyw, hil neu anabledd (neu nodwedd bersonol arall) yn gallu effeithio profiadau a chyfleoedd bywyd.
AMRYWIOLDEB
Yr ydym yn adnabod a pharchu’r ffaith fod pobl yn wahanol. Mae’r gwahaniaethau hyn yn arwain at brofiadau, gwerthoedd a dulliau o feddwl amrywiol. Mae amrywioldeb yn gofyn i ni adnabod a chofleidio gwahaniaethau pobl, fel unigolion a grwpiau, a cheisio harneisio y buddion unigryw y mae gan pob person neu grŵp i’w gynnig tra’n ymwneud ag anghenion gwahanol mewn dull cadarnhaol.
Felly, tra mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn cynnwys ffactorau fel hil, rhyw ac anabledd; mae amrywioldeb hefyd yn cwmpasu llawer agwedd arall o unigolion fel cefndir cymdeithasol, nodweddion personol neu agweddau penodol o brofiadau bywyd. Os ydym yn parchu gwahaniaethau pobl, yr ydym yn fwy tebygol o’u trin yn gyfartal.
CYNHWYSIAD
Yr ydym yn cydnabod fod angen i bobl deimlo eu bod wedi eu derbyn, eu croesawu a’u trin yn deg i allu cyflawni diwylliant cynhwysol. Yr ydym yn cydnabod fod creu amgylchedd lle gall ein pobl deimlo y gallant ddod â’u hunain cyflawn i’r gwaith yn cynorthwyo pawb i gyrraedd potensial gyrfaol tra’n gwella eu bodlonrwydd yn y man gwaith. Yr ydym eisiau meithrin ymdeimlad o berthyn o fewn ein cyfundrefn fel y gall pawb deimlo eu bod yn cael y cymorth bob amser i wneud eu gorau.