National Nuclear Laboratory

Datrysiadau Cwsmer

Rydym yn datrys problemau. Yr ydym yn cyfuno ein gallu gwyddonol a thechnolegol helaeth gyda’n angerdd am ymchwil a datblygiad i ddatrys materion niwclear cymhleth ar gyfer ein cwsmeriaid, Llywodraeth y DU a rheolyddion.

Gweithrediadau gweithfydd niwclear

Yr ydym yn darparu ein cwsmeriaid a’r sector DU gyda dirnadaeth i asedau niwclear gweithredol er mwyn galluogi penderfyniadau effeithiol ar weithredu gorau posibl, estyniad oes, a thrawsnewidiadau mewn cyflwr gweithredol megis diffodd, gael eu gwneud.
Darganfyddwch fwy

Rheoli Gwastraff

Mae’r cyfuniad unigryw o gyfleusterau, sgiliau a sylfaen gwybodaeth o fewn cyrraedd yn golygu y gallwn gynghori ar bob datrysiad rheoli gwastraff, gan ddarparu arbenigedd a gwerthusiad annibynnol i’n cwsmeriaid a’r DU.
Darganfyddwch fwy

Digomisiynu

Defnyddiwn ein sgiliau, cyfleusterau a dulliau i arloesi wrth ymdrin â’r broses o ddigomisiynu gweithrediadau niwclear mewn modd sy’n rheoli’r risgiau a’r peryglon, sydd hefyd yn rhoi gwerth am arian.
Darganfyddwch fwy

Ymchwil a datblygu strategol

Mae'r prosiectau ymchwil yr ydym yn ymgymryd â nhw a'r gefnogaeth a rown i ymchwil pobl eraill, yn cynorthwyo i effeithio ar ffurf marchnadoedd niwclear datblygedig newydd ac felly’n cyfrannu at dwf ynni carbon isel.
Darganfyddwch fwy

Astudiaethau achos

Yr ydym yn ymfalchïo yn y gwaith a wnawn – boed hynny yn Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU neu ddarparu datrysiadau i gwsmeriaid neu’n gweithio ar y cyd gydag eraill. Darllenwch am rywfaint o’n gwaith yma.
Darganfyddwch fwy