National Nuclear Laboratory

Ein Hetifeddiaeth

Yr ydym yn falch o’n hetifeddiaeth ac yn llawn cynnwrf am ein dyfodol.

Ers y 1940au, mae LNC wedi bod yn arloesi yn y sector niwclear. Yr oedd ein sefydlwyr yn arloeswyr datblygiad atomig ac yr ydym wedi bod yn gysylltiedig â phob cenhedlaeth o dechnoleg niwclear ers hynny.

Ffurfiwyd LNC yn 2008 gydag ymrwymiad i ddatblygiad gwyddonol angenrheidiol. Heddiw, yr ydym yn adeiladu ar ein hetifeddiaeth gyfoethog a’n pwrpas craidd fel arloeswyr ar gyfer gwyddoniaeth niwclear. Yr ydym yn herio ffiniau gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd. Mae ein timoedd talentog yn cynnwys arbenigwyr technegol, cymrodyr diwydiant a gwyddonwyr byd-enwog.

Yr ydym yn parhau i arloesi i ddatrys heriau ynni yfory.

Mae’r fideo hwn yn mynd â chi ar daith fer o hanes LNC a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol.