National Nuclear Laboratory

Cyflenwyr

Cliciwch ar y ddolen gyswllt hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut yr ydym yn gweithio gyda chyflenwyr yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.


Mae LNC yn Awdurdod Contractau (https://www.gov.uk/guidance/public-sector-procurement-policy) ac o’r herwydd mae’n dilyn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/102/contents/made).

Mae gan dîm caffael LNC dri phrif nod:

  1. Gwasanaeth Cwsmer – ein bwriad yw ceisio gwneud y broses brynu cyn lyfned â phosibl wrth reoli unrhyw risg. Yr ydym hefyd yn ceisio sicrhau fod anghenion caffael y busnes yn cael eu diwallu’n effeithlon ac ar amser trwy gynllunio, rhoi cyngor a chydweithrediad effeithiol gyda’n cadwyn gyflenwi.
  2. Cydymffurfiad – yr ydym yn warchodwyr y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus. Yr ydym yn gweithredu o fewn fframwaith a alwn yn Ddeg Rheol Euraidd Caffael (dolen gyswllt)
  3. Gwerth Uchaf – yn ogystal â chost, yr ydym hefyd yn ystyried ansawdd a risg. Yr ydym yn ceisio lleihau ein costau caffael cyffredinol trwy ddefnyddio contractau fframwaith – gan sicrhau proses effeithlon i LNC a’n cyflenwyr.