National Nuclear Laboratory

Ymchwil a datblygu strategol

Mae’r prosiectau ymchwil yr ydym yn ymgymryd â nhw a’r gefnogaeth a rown i ymchwil pobl eraill, yn cynorthwyo i effeithio ar ffurf marchnadoedd niwclear datblygedig newydd ac felly’n cyfrannu at dwf ynni carbon isel.

Yr ydym yn gweithio mewn cydweithrediad â llywodraeth y DU i wireddu’r cyfleoedd amgylcheddol ac economaidd y mae’r diwydiant niwclear byd-eang yn gallu eu dennu i’r DU. Drwy ddod ac academia a diwydiant ynghyd ochr yn ochr â’n harbenigwyr pwnc gallwn ddatblygu datrysiadau arloesol ac addas at y diben. Ein cefnogaeth i asiantaethau’r llywodraeth yw datblygu a chynnal sgiliau allweddol a galluoedd, adeiladu cydweithredu rhyngwladol, a meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr pwnc. Yn y modd hwn, pa bynnag lwybr y bydd y DU yn ei chymryd yn y dyfodol, fel cenedl niwclear byddwn yn gymwys i ymateb a chefnogi.

Rhan o’n cyfrifoldeb a roddir arnom gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yw sicrhau bod ein cyfleusterau ar gael i’r gymuned wyddonol eanghach a thrwy hynny yn caniatáu i’r byd academaidd i ddatblygu dulliau pwysig eraill o ymchwilio yn ymwneud â niwclear.

Yr ydym yn cefnogi sector niwclear y DU i ddarparu mantais cystadleuol ar lwyfan byd-eang, gan weithio mewn partneriaeth gyda diwydiant ac academia. Mae mynediad i gyfleusterau sy’n arwain y byd fel ein Labordy Canolog a Chyfleuster Dalton Cumbria yn hanfodol ar gyfer ymchwil arloesol i ganiatáu i’r DU aros ar flaen y gad mewn materion niwclear.

Darllenwch am sut yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i ddatblygu technoleg batri newydd.