National Nuclear Laboratory

Digomisiynu

Mae gan y diwydiant niwclear gyfrifoldeb tuag at y cyhoedd a chenedlaethau’r dyfodol i sicrhau fod gennym ddatrysiadau ar gyfer pob agwedd o ynni niwclear. Mae cloriannu sut i ddigomisiynu gweithrediadau niwclear mewn modd sy’n rheoli’r risgiau a’r peryglon, ond sydd hefyd yn werth yr arian, yn gofyn am feddwl arloesol.

Yn aml, un agwedd allweddol o sut mae LNC yn gweithio yw fel y cesglir sgiliau a thechnoleg o feysydd eraill – gan gynnwys sectorau di-niwclear – a gweithio allan sut i weithredu, profi a datblygu ei ddefnydd mewn amgylchedd niwclear. Mae ein safle annibynnol yn golygu ein bod yn ‘amheuwr technoleg’ ac yn caniatáu i ni ddarparu argymhellion diduedd gyda chanolbwynt ar y canlyniadau hir-dymor gorau i’r cwsmeriaid.

Darllenwch am sut yr ydym yn defnyddio roboteg i gynorthwyo digomisiynu..

Mae ein gwasanaethau amgylcheddol yn chwarae rhan fawr yn y broses o wastraff a digomisiynu. Yr ydym yn darparu gwasanaethau arloesol wedi’u teilwra ar gyfer rheoli elifion a gwastraff ymbelydrol ac yn defnyddio ein sylfaen gwybodaeth a’n sgiliau i gloriannu cynlluniau a datrysiadau hir-dymor ynghylch ansawdd tir.

Mae ein gwaith ym maes technoleg gweddillion tanwydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi glanhad niwclear a rhaglen adeiladu niwclear newydd. Mae hyn yn golygu mai ein nod yw i ddatblygu gwybodaeth ddiwydiannol yn y maes hwn, drwy annog trafodaeth a llywio’r penderfyniadau a wneir gan ein cwsmeriaid. Mae ein harbenigwyr technegol proffesiynol, profiad helaeth a chyfleusterau ymchwil gweithredol ac anweithredol o’r radd flaenaf, yn cyfuno i gynnig gwasanaeth cyffredinol eithriadol i’n cwsmeriaid yn y DU ac ar draws y byd.

Darllenwch am sut wnaethom gynorthwyo tîm Fukushima gyda’u problemau gwastraff.