National Nuclear Laboratory

Gweithrediadau gweithfydd niwclear

Yr ydym yn darparu ystod eang o ddatrysiadau gwyddonol a thechnegol i gefnogi gweithrediad gweithfeydd niwclear ac yn sicrhau estyniad oes asedau niwclear (ynni a gyriant fel ei gilydd).

Yn benodol, yr ydym wedi datblygu ystod eang o dechnegau archwilio annistrywiol a dinistriol Ôl Arbelydriad o danwydd a chydrannau adweithyddion i gynorthwyo i roi gwybod i’n cwsmeriaid am y penderfyniadau gweithredol asedau gorau posibl. Mae y rhain yn cynnwys archwilio gweledol, profion ymwthiol, dulliau mesur pell neu anuniongyrchol, a mesuriadau ffisegol.

Mae ein sylfaen wybodaeth a’n sgiliau ymchwil yn caniatáu i ni ddatblygu profion pwrpasol newydd i ddiwallu anghenion penodol cwsmeriaid.

Fel gweithredwr cyfleusterau niwclear gweithredol ein hunain, yr ydym yn casglu gwybodaeth ac arbenigedd at ei gilydd ar draws ein sefydliad i ganiatáu i gwsmeriaid ystyried agweddau rheoli a digomisiynu o fewn y dylunio, yr adeiladu a chamau gweithredu adweithyddion niwclear. Yn arbennig, mae dyfnder y ddealltwriaeth mewn cemeg, defnyddiau a chyrydiad adweithyddion yn caniatáu i ni gynghori am yr adweithyddion presennol a newydd ar unrhyw raddfa.

Yn ogystal, drwy weithredu sgiliau ein harbenigwyr mewn dadansoddi data, gwyddoniaeth penderfyniadau, modelu, gwasanaethau digidol a roboteg, gallwn agor yr opsiynau i’n cwsmeriaid gyflawni rheolaeth cylch bywyd mwy cost-effeithiol o’u hasedau.

Darganfyddwch fwy yma