National Nuclear Laboratory

Y Tîm Arweiniol

EIN HARWEINWYR YW’R GORAU YN Y BUSNES. MAE ARWAIN SEFYDLIAD SY’N LLAWN O BOBL SYDD AR FRIG EU DISGYBLAETHAU PROFFESIYNOL YN GOFYN AM WELEDIGAETH A LLAIS CLIR I FYNEGI’R WELEDIGAETH HONNO. EIN TÎM ARWEINIOL SY’N CAEL EIN GWEITHLU AMRYWIOL I GYDWEITHIO YN UN TÎM CYDLYNOL GYDA GWERTHOEDD AC AMCANION CYFFREDIN.

Yn gyfuniad o’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol, mae ein harweinyddiaeth yn cynrychioli’r gorau a’r mwyaf disglair o’r diwydiant niwclear a thu hwnt.

Mae gan y Bwrdd rolau a chyfrifoldebau pendant er mwyn gweithio i oruchwylio gweithgareddau’r LNC. Mae’r Bwrdd yn dod â phrofiad a rheolaeth gorfforaethol arloesol at ei gilydd i sicrhau dyfodol y LNC.

Y Tîm Gweithredol sy’n gyfrifol am wneud y prif benderfyniadau o fewn LNC. Maent yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn cyfrannu o brofiadau helaeth o fewn ac oddi allan y maes niwclear.