National Nuclear Laboratory

Gweithio gyda Ni

Mae cydweithredu yn rhan annatod o’n llwyddiant. Yr ydym yn cynorthwyo i drosi ymchwil sylfaenol i ddatrysiadau bywyd-go-iawn ar gyfer diwydiannau. Rhan o’r rôl hon yw cynnwys darparu mynediad i’n cyfleusterau rheng flaen er mwyn i eraill ddatblygu eu gwaith.

Mae mynediad i holl gyfleusterau y LNC ar gael i ymchwilwyr, yn unol â rhwymedigaethau diogelwch a masnachol pob safle, ac mae’n cynnwys casgliad helaeth o wahanol labordai a galluoedd dadansoddol.

Mae gennym dri dull allweddol o gael mynediad:

Post
Anfonir samplau i gyfleuster LNC i’w harchwilio gan wyddonydd LNC. Defnyddir hyn yn nodweddiadol ar gyfer technegau gosodedig lle nad oes angen dehongli wrth y cyfarpar / yn y labordy (fel pelydr-x CT), lle gellir archwilio data oddi ar y safle.

Mynychu (Dwylo-mewn- Pocedi)
Mae’r ymchwilydd yn gallu ymuno â gwyddonydd LNC ar y safle i archwilio eu samplau, ond sy’n bresennol fel arweinydd i’r gwyddonydd yn unig. Yn y gorffennol mae hyn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer archwiliad microscop electronig o sbesimenau, neu baratoi sampl lle mae angen gwybodaeth drylwyr yr ymchwilydd i ychwanegu at ddealltwriaeth wyddonydd LNC. Yn nodweddiadol cyfyngir hyn i 15 diwrnod mewn blwyddyn galendr.

Preswyl
Mynediad i gyfleusterau LNC mewn ystyr “draddodiadol” – mae’r ymchwilydd yn cael ei hyfforddi i gael mynediad a gweithio yng nghyfleusterau LNC i’r un safon â staff y LNC. Mae hon yn broses hirach sy’n gofyn am hyfforddiant ar y safle cyn dechrau gweithio.

Mae gan bob safle gynrychiolydd mynediad defnyddiwr un pwrpas sy’n wybodus yn benodol am drefniadau mynediad ei safle.

Os hoffech wybod mwy am gael mynediad i’n cyfleusterau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.