National Nuclear Laboratory

Amodau a Thelerau

DARLLENWCH Y TERMAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R SAFLE HON

Telerau Defnyddio’r Wefan a Defnydd Derbyniol

Telerau Defnyddio’r Wefan

Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt arni) yn dweud wrthych am delerau’r defnydd y gallwch ei wneud o’n gwefan nnl.co.uk (ein safle) unai fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’r safle. Drwy ddefnyddio ein safle, yr ydych yn datgan eich bod yn derbyn y telerau defnyddio a’ch bod yn cytuno i gadw atynt. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch a defnyddio’r safle os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Amdanom Ni

Safle a weithredir gan y Labordy Niwclear Cenedlaethol Cyfyngedig (“Ni”) yw nnl.co.uk. Yr ydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 3857752 ac mae gennym ein swyddfa gofrestredig yn Chadwick House, Warrington Road, Birchwood Park, Warrington, Cheshire, WA3 6AE.

Cael mynediad i’n safle

Caniateir mynediad i’n safle dros dro, ac yr ydym yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl neu newid y gwasanaeth a ddarparwn ar ein safle heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol am unrhyw reswm os nad yw ein safle ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod .

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn yn cyfyngu mynediad i rai rhannau o’n safle, neu ein safle gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.

Os byddwch yn dewis, neu os rhodder i chi gôd adnabod defnyddiwr, neu gyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n ofynnol eich bod yn trin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, a rhaid i chi beidio â’i ddatgelu i unrhyw un arall. Yr ydym yn cadw’r hawl i analluogi unrhyw gôd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, unai wedi ei ddewis gennych chi neu ei roi gennym ni, ar unrhyw adeg, os yn ein barn ni eich bod wedi methu â chadw at unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Wrth ddefnyddio ein safle, mae’n ofynnol eich bod yn cadw at reolau ein polisi defnydd derbyniol.

Yr ydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sy’n angenrheidiol i chi allu cael mynediad i’n safle. Yr ydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau fod pob person sy’n cael mynediad i’n safle drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn eu cadw.

Perchnogaeth hawliau deallusol

Ni yw perchennog neu yr un sydd wedi trwyddedu i pob hawl ddeallusol ar ein safle, a’r defnydd a gyhoeddir arno. Mae’r gweithiau hyn wedi cael eu diogelu gan gyfreithiau a chytuniadau hawlfraint ar draws y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.

Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho detholiadau o unrhyw dudalen (nau), dogfennau neu ddelweddau o’n safle ar gyfer eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at ddeunydd a bostiwyd ar ein safle.

Mae’n ofynnol na allwch addasu’r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun sy’n perthyn iddo.

Dylid bob amser cydnabod ein statws (neu statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron y deunydd ar ein safle bob amser.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein safle at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os byddwch chi’n argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n safle yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych chi wedi’u gwneud

Dibyniaeth ar Wybodaeth Wedi’i Bostio

Ni fwriedir i sylwebaeth a deunyddiau eraill sy’n cael eu postio ar ein safle fod yn gyfystyr â chyngor y dylid dibynnu arno. Yr ydym felly yn gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw ymwelydd â’n safle, neu gan unrhyw un a allai fod yn cael gwybod am unrhyw un o’i gynnwys.

Mae ein Safle yn Newid yn Rheolaidd

Ein nod yw diweddaru ein safle yn rheolaidd a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os bydd yr angen yn codi, gallwn atal mynediad i’n safle, neu ei chau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ran o’r deunydd ar ein safle fod wedi dyddio ar unrhyw adeg penodol, ac nid ydym dan unrhyw orfodaeth i ddiweddaru deunydd o’r fath.

Ein Atebolrwydd

Darperir y deunydd sy’n cael ei arddangos ar ein safle heb unrhyw garantïon, amodau na gwarantau ynghylch ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir yn gyfreithiol, yr ydym ni, aelodau eraill o’n grŵp o gwmnïau a thrydydd person sy’n gysylltiedig â ni trwy hyn yn gwahardd yn benodol:

Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a fyddai fel arall yn cael eu awgrymu gan statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.

Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu o ganlyniad a achosir gan unrhyw ddefnyddiwr mewn perthynas â’n safle neu o ganlyniad i unrhyw ddefnydd, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnydd o’n safle, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arno, gan gynnwys, heb gyfyngiad unrhyw atebolrwydd am:

golli incwm neu gyllid; golli busnes; golli elw neu gytundebau; golli’r arbedion a ragwelir; golli data; golli ewyllys da; wastraffu amser rheoli neu swyddfa;

ac am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag mae’n deillio ac os yw’n cael ei achosi gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri cytundeb neu fel arall, hyd yn oed pe rhagwelwyd hynny, ar yr amod na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golli neu ddifrodi eich eiddo cyffyrddadwy neu unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydynt wedi’u heithrio gan unrhyw un o’r categorïau a nodir uchod.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, nac ar ein hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio o ran mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.

Gwybodaeth amdanoch chi a’ch Ymweliadau â’n Safle

Yr ydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio ein safle, yr ydych yn cydsynio i brosesu o’r fath ac yr ydych yn gwarantu fod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Cofrestru

Mae rhai rhannau o’n Gwefan (fel y rhai lle gallwch uwchlwytho, postio neu rannu gwybodaeth) ar gael dim ond os ydych chi’n cofrestru gyda ni. Os dewisiwch gofrestru gyda ni mi fydd y Amodau a Thelerau Cofrestru yn berthnasol i chi a gellir cael hyd i’r rhain ar dudalen Gyrfaoedd ein safle

Firysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein safle trwy gyflwyno firysau, ‘trojans’, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n fwriadol faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinyddwr y mae ein safle wedi’i storio arno neu unrhyw weinyddwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata cysylltiedig â’n safle. Ni ddylech ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod- gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod – gwasanaeth gwasgaredig.

Drwy gamddefnyddio’r ddarpariaeth hon, mi fuasech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Mi fyddwn yn rhoi gwybod am unrhyw gamddefnydd o’r fath i’r awdurdodau cyfreithiol perthnasol ac yn cydweithredu gyda’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Bydd unrhyw drosedd o’r fath yn arwain at eich gwahardd rhag yr hawl o ddefnyddio ein safle yn syth.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod-gwasanaeth gwasgaredig, firysau neu unrhyw ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol eraill fel canlyniad i’ch defnydd o’n safle neu lawrlwythiad o unrhyw ddeunydd a bostiwyd arno, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig.

Cysylltu â’n Safle

Gallwch gysylltu â’n tudalen hafan, cyn belled a’ch bod yn gwneud hynny yn deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn cymryd mantais ohono, ond ni chaniateir i chi sefydlu dolen gyswllt yn y fath fodd i awgrymu unrhyw gysylltiad, gymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen gyswllt o unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio ein safle ar unrhyw safle arall, ac ni chewch greu dolen gyswllt i unrhyw ran o’n safle heblaw’r dudalen hafan. Yr ydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd. Mae’n rhaid i’r wefan yr ydych yn cysylltu â hi gydymffurfio ym mhob ffordd â’r safonau cynnwys a amlinellir yn ein polisi defnydd derbyniol.

Os dymunwch wneud unrhyw ddefnydd o ddeunydd ar ein gwefan ac eithrio’r hyn a amlinellir uchod, cyfeiriwch eich cais at customers@nnl.co.uk

Dolenni Cyswllt o’n Safle

Lle mae ein safle yn cynnwys dolenni cyswllt i safleoedd ac adnoddau a ddarperir gan drydydd- person, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd ohonynt.

Awdurdodaeth a Chyfraith Berthnasol

Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod llwyr dros unrhyw gais sy’n deillio o, neu’n gysylltiedig ag ymweliad i’n safle er ein bod yn cadw’r hawl i ddwyn achos yn eich erbyn am dorri’r amodau hyn yn eich gwlad breswyl neu unrhyw wlad berthnasol arall.

Bydd y telerau defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi ohonynt neu mewn cysylltiad â hwy neu eu cynnwys neu ffurfiant (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

Amrywiadau

Gallwn adolygu’r telerau hyn o ddefnydd ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, gan eich bod wedi eich rhwymo iddynt. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn man arall ar ein safle.

Eich Pryderon

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddeunydd sy’n ymddangos ar ein safle, cysylltwch os gwelwch yn dda â customers@nnl.co.uk.

Diolch am ymweld â’n safle.

Polisi Defnydd Derbyniol

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn gosod y telerau rhyngoch chi a ni sy’n ymwneud â’ch mynediad i’n gwefan nnl.co.uk (ein safle). Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr ac ymwelwyr â’n safle.

Mae eich defnydd o’n safle yn golygu eich bod yn derbyn, ac yn cytuno i gadw at, yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ychwanegu at ein telerau defnyddio’r wefan.

Safle a weithredir gan y Labordy Niwclear Cenedlaethol Cyfyngedig (“Ni”) yw nnl.co.uk. Yr ydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 3857752 ac mae gennym ein swyddfa gofrestredig yn Chadwick House, Warrington Road, Birchwood Park, Warrington, Cheshire, WA3 6AE.

Defnyddio Gwaharddedig

Dim ond at ddibenion cyfreithlon y gallwch ddefnyddio ein gwefan. Ni chewch ddefnyddio ein gwefan:

Mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliadau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol cymwys.

Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus neu sydd ag unrhyw bwrpas neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.

I anfon neu ganiatáu anfon, unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo digymell neu anawdurdodedig neu unrhyw fath arall o ddeisyfiad tebyg (sbam).

I drosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, ceffylau Trojan, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu gôd cyfrifiadur tebyg sydd wedi’i gynllunio i effeithio’n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd cyfrifiadurol neu galedwedd.

Yr ydych hefyd yn cytuno i:

Beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ail-werthu unrhyw ran o’n safle yn groes i ddarpariaeth ein telerau defnyddio gwefan.

Beidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd â, difrodi na tharfu:
unrhyw ran o’n safle;

unrhyw offer neu rwydwaith y mae ein safle yn cael ei storio arno; unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu ein safle; neu unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i unrhyw drydydd person.

Gwaharddiad a Therfynu

Byddwn yn penderfynu, yn ôl ein doethineb, os oes camddefnydd wedi digwydd o’r polisi defnyddio derbyniol hwn trwy eich defnydd o’n safle. Pan fydd yna gamddefnydd o’r polisi hwn, gallwn gymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn ein barn ni.

Newidiadau i’r Polisi Defnydd Derbyniol

Gallwn adolygu’r polisi defnydd derbyniol hwn ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, gan eich bod wedi eich rhwymo’n gyfreithiol iddynt. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn man arall ar ein safle.