National Nuclear Laboratory

Datganiad Deddf Caethwasiaeth Fodern

Labordy Niwclear Cenedlaethol Cyfyngedig (“LNC”) – Datganiad Deddf Caethwasiaeth Fodern – 2021

Cyflwyniad

Mae Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sydd â throsiant blynyddol o fwy na £36 miliwn gyhoeddi datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl yn flynyddol. Mae trosiant blynyddol LNC yn uwch na’r trothwy hwn.

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan LNC yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn unrhyw un o fusnesau neu gadwyni cyflenwi y LNC. Y mae hefyd yn ystyried pa gamau ychwanegol all LNC eu rhoi ar waith i wella’n barhaol.

Mae’r LNC wedi ymrwymo i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Ni wnaiff LNC oddef cam-drin dynion, merched neu blant ac mae’n ymdrechu i gael tryloywder llwyr trwy ei fusnes a’i gadwyni cyflenwi ei hun. Mae atebolrwydd wedi ei neulltio i Brif Swyddog Ariannol LNC, gyda’r Tîm Caffael yn rheoli o ddydd i ddydd.

Cefndir LNC

Is-gwmni ym meddiant llwyr ‘NNL Holdings Limited’, sydd yn ei dro yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yw LNC. LNC yw’r unig gwmni masnachu o fewn grŵp LNC.

Fel Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU, mae LNC yn cynnig ehangder o gyngor technegol; datrysiadau; cynnyrch a gwasanaethau sy’n cefnogi’r holl gylchred tanwydd niwclear, o weithgynhyrchu tanwydd a chynhyrchu pŵer i ailbrosesu, trin a gwaredu gwastraff. Yr ydym yn gweithredu o chwe safle yng Nghymbria, Swyddi Caerhirfryn, Caerlleon, Caerloyw a Swydd Rhydychen, er bod y rhan fwyaf o’n gwaith yn canolbwyntio ar ein safleoedd yng Ngogledd Orllewin Lloegr, a ni yw’r ail gyflogwr diwydiannol mwyaf yng Ngorllewin Cymbria.

Mae’r LNC yn chwarae rôl ganolog wrth gydlynu ymchwil a datblygiad niwclear y DU ac mae’n cynnal cysylltiadau agos gydag academia a diwydiant. Yr ydym yn cefnogi’r Llywodraeth i ddiogelu sgiliau a galluoedd niwclear y DU ac yn darparu cyngor ar benderfyniadau strategol allweddol.

Cadwyn Gyflenwi LNC

Ni fydd LNC yn ymgymryd â busnes gydag unrhyw gyflenwr neu unigolyn y mae’n wybodus ei fod yn ymwneud ag arferion sydd yn mynd yn groes i’r Ddeddf ac nid yw’n goddef unrhyw gyflenwyr y canfyddir eu bod yn torri’r Ddeddf ar ôl dyfarnu’r contract.

Mae LNC wedi sicrhau fod aelodau’r tîm Caffael wedi E-Ddysgu Caffael Egwyddorol a Chyflenwi CIPS. Mae hyfforddiant pellach a sesiynau ymwybyddiaeth i’w hail-drefnu (oherwydd cyfyngiadau COVID-19) i’r busnes ehangach, fel er enghraifft tîm archwiliadau mewnol LNC, fel y bo’n briodol.

Mae amodau a thelerau safonol LNC yn ei gwneud hi’n ofynnol i’n cyflenwyr a phob un o’u his-gontractwyr gydymffurfio â’r Ddeddf.

Mae LNC yn ymarfer diwydrwydd grymus priodol trwy gydol y broses o ddewis cyflenwyr tendr, gan gynnwys defnyddio Holiadur Cyflenwyr Llywodraeth y DU (“SQ”) ar gyfer pob contract sy’n werth dros £100,000 sy’n cynnwys anghenion penodol sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf. Mae LNC hefyd yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth cyflenwyr, fel ‘Rapid Ratings’ a ‘Dun’ a ‘Bradstreet’ i sicrhau bod ein holl gyflenwyr yn gadarn yn ariannol, yn foesegol ac yn gyfreithiol. Os canfyddir bod cyflenwr wedi torri’r Ddeddf neu os canfyddir ei fod wedi camarwain LNC yn ystod y broses dendro, cymerir camau ar unwaith i fesur effaith y weithred, ac os oes angen, terfynu’r contract.

Ystyriwyd cadwyn gyflenwi’r LNC ac o ganlyniad i natur ddaearyddol ein cyflenwyr (gweler y siart isod) a’r mathau o gynnyrch/gwasanaethau a gaffaelir, ystyrir fod y risg yn isel. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon yn unrhyw un o’n rhagdybiaethau. Mae LNC yn ymrwymiedig i adolygu ein cyflenwyr yn gyfnodol, yn arbennig pan mae contractau aml-flwyddyn yn cael eu gosod. Mae hyn yn caniatáu i ni ailasesu peth, neu’r cyfan o’r wybodaeth a ddarparwyd ar adeg dyfarnu’r contract ac amlygu unrhyw feysydd i’w gwella, gan gynnwys lle mae’r cyflenwyr yn torri neu methu â chyflawni amodau’r Ddeddf.

Hyfforddiant

Mae LNC yn parhau i weithio i gynyddu ymwybyddiaeth o fewn ein sefydliad ac i sicrhau lefel uchel o ddealltwriaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein cadwyni cyflenwi ac yn ein busnes.

Datblygiadau o ddatganiad Deddf Caethwasiaeth Fodern 2020

Yn ddiweddar, mae LNC wedi gweithredu teclyn diogelu risg newydd ar gyfer cyflenwyr cyfredol (gyda’r 100 uchaf yn seiliedig ar wariant wedi’i uwchlwytho adeg y Flwyddyn Ariannol yn diweddu ar 31 Mawrth 2021) sy’n rhoi lle amlwg i holiaduron manwl yn ymwneud â pholisïau, gweithrediadau a chadwyni cyflenwi priodol. Mae adran benodol wedi’i neilltio ar gyfer Caethwasiaeth Fodern ac arferion busnes moesegol o fewn yr holiaduron. Gofynnir i gyflenwyr ymateb iddynt yn fanwl. Mae’r holl argymhellion yn cael eu harchwilio’n drwyadl, ac yna mae’r teclyn yn cynhyrchu sgôr yn seiliedig ar lefel y risg y mae’r cyflenwr yn debygol o achosi i genhadaeth LNC i weithio gyda chadwyn gyflenwi foesegol sy’n gwrthwynebu Gwrth-gaethwasiaeth a Masnachu Pobl. Bydd y teclyn diogelu risg yn cael ei adolygu’n flynyddol gyda ffurflenni wedi’u diweddaru yn cael eu cyflwyno gan bob cyflenwr i LNC yn flynyddol a bydd lefel y risg yn cael ei hadnewyddu wedi hynny. Bydd unrhyw gyflenwyr y canfyddir eu bod yn anufudd i ddeddfau perthnasol neu bolisïau LNC naill ai’n cael eu tynnu o restr cyflenwyr LNC neu’n cael eu haddysgu a’u cefnogi i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a’r arferion busnes gorau.

Ystyriaethau pellach

Mae LNC yn cynnal adolygiadau rheolaidd o’n cyflenwyr, yn arbennig pan wneir contractau aml-flwyddyn i sicrhau fod contractau o’r fath yn cynnwys telerau sy’n mynnu fod ein cyflenwyr a phob un o’u hisgontractwyr yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys defnyddio fframweithiau archwiliedig gan y Llywodraeth a chyflenwyr. Mae gan LNC Bolisi Gwrth-gaethwasiaeth a Masnachu Pobl sydd wedi’i gymeradwyo gan Dîm Arweiniol Gweithredol LNC a’i gyfathrebu i’r holl weithwyr a staff drwy System Reoli LNC.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud yn unol ag adran 54 (1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac yn ffurfio datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl LNC ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021.

Matt Miller
Prif Swyddog Ariannol
Labordy Niwclear Cenedlaethol Cyfyngedig