Mae’r dudalen hon yn darparu yr holl wybodaeth gorfforaethol mewn un man: pwy ydym ni, eiddo pwy ydym ni, ein polisïau a gwybodaeth allweddol am ein busnes
Y mae’n cynnwys gwybodaeth ysgrifenedig a dolennau cyswllt i rannau eraill o’r wefan lle rhestrir y wybodaeth honno.
- LNC yw Labordy Cenedlaethol y DU. Yr ydym yn gweithredu ar sail fasnachol ymreolaethol.
- Eiddo’r Llywodraeth y DU yw LNC ac mae ganddo dair rôl benodol – gweler diagram
- Mae’r LNC yn gweithredu cyfleusterau sy’n arwain y byd gan wneud gwyddoniaeth o’r radd flaenaf
- Mae gennym oddeutu 1000 o weithwyr yn cynnwys 450 o wyddonwyr
EIN STRWYTHUR RHEOLI A THREFN
LNC yw cangen weithredol Daliadau Cyfyngedig LNC (NNL Holdings Limited) sydd yn eiddo i Lywodraeth y DU, drwy Buddsoddiadau Llywodraeth y DU. Adran noddi y LNC yn y Llywodraeth yw BEIS – Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Mae’r fframwaith eang y mae y LNC yn gweithredu ynddo, a’i berthynas â’r Llywodraeth, yn cael ei osod allan mewn fwy o fanylder yma.
Ein harweinwyr yw’r gorau yn y busnes. Mae arwain sefydliad sy’n llawn o bobl sydd ar frig eu disgyblaethau proffesiynol yn gofyn am weledigaeth a llais clir i fynegi’r weledigaeth honno. Swyddogaeth ein tîm arweiniol yw tynnu ein gweithlu amrywiol at ei gilydd yn un tîm cydlynol gyda gwerthoedd ac amcanion tebyg.
Gallwch ddarllen mwy am ein tîm Arweiniol yma.
ADRODDIAD BLYNYDDOL
Mae ein Adroddiad Blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd yn dod o 2020. Gallwch lawrlwytho a darllen copi drwy glician y ddolen gyswllt hon.
POLISÏAU CORFFORAETHOL
Yr ydym yn cyhoeddi ein holl bolisïau allweddol fel y gallwch ddarllen drosoch eich hun ein hagwedd tuag at fusnes.
Gellir gweld a lawrlwytho ein holl bolisïau, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, yr Amgylchedd, Diogelwch ac Ansawdd, yn ogystal â’n datganiadau ffurfiol ar Gaethwasiaeth Fodern a chydymffurfiaeth Adran 172, trwy glicio ar y ddolen hon.