Syr Andrew Mathews
Syr Andrew Mathews
Apwyntiwyd Syr Andrew Mathews fel Cadeirydd y LNC ar y 1af o Ionawr 2016, ar ôl gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol am oddeutu 18 mis cyn hynny.
Yn ogystal â’i rôl yn LNC mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd ‘Babcock Naval Marine’, fel Cyfarwyddwr Anweithredol annibynnol ar fwrdd busnes GenCo NNB, Ynni EDF ac fel uwch ymgynghorwr i Atkins.
Ymddeolodd Syr Andrew o'r Llynges Frenhinol yn 2014 fel Pennaeth Fflyd Materiel, yn gyfrifol am raglen gefnogaeth a chaffael ar gyfer pob llong a llong danfor ac am weithredu 3 canolfan morwrol y Llynges Frenhinol.
Apwyntiwyd Syr Andrew yn CB yn 2008 ac fe’i urddwyd yn farchog yn 2018. Y mae’n gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg.
Paul Howarth
Paul Howarth
Penodwyd Paul fel Rheolwr - Gyfarwyddwr y Labordy Niwclear Cenedlaethol ar y 1af o Ionawr 2011. Y mae wedi rhedeg grwpiau mawr a phortffolios helaeth mewn amgylcheddau academaidd a busnes fel ei gilydd ac wedi ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ar draws y Llywodraeth, byd academaidd a diwydiant. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o faterion ymchwil cyfundrefnau niwclear cenedlaethol a rhyng-genedlaethol.
Dechreuodd Paul ei yrfa drwy weithio ar Raglen Ymhollti Ewropeaidd lle cwblhaodd ei PhD. Yn dilyn hynny gweithiodd ar drosglwyddo technoleg yn y diwydiant lled-ddargludyddion ac ar y rhaglen niwclear yn Siapan. Gweithiodd i BNFL mewn amryw o safleoedd yn y DU a rolau yn cynnwys masnacheiddio technoleg, cefnogi peiriannau a datblygu polisi, gan orffen drwy gefnogi Llywodraeth y DU ar yr achos i saernïo niwclear newydd. Yn ogystal, cydsefydlodd Paul Sefydliad Niwclear Dalton a gweithio i’r gyfundrefn Battele yn yr Unol Daleithiau, ochr yn ochr â Labordai Cenedlaethol yr UD ar ddatblygu cytundeb M&O. Yn 2009 roedd yn rhan o'r tîm M&O y dyfarnwyd y cytundeb i redeg LNC.
Y mae Paul hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Arloesi, Ymchwil a Chyrff Technolegol (AIRTO). Fe’i urddwyd i’r Academi Frenhinol Beirianneg yn 2014.
Steve Garwood
Steve Garwood
Ymunodd yr Athro Stephen Garwood â Bwrdd LNC ym Mai 2020, ar ôl bod yn Athro Cyfanrwydd Saernïol yng Ngholeg Imperial Llundain a gwasanaethu fel Cyfarwyddwr anweithredol y Systemau Trafnidiol Catapult. Cyn y rolau hynny yr oedd Steve yn Gyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi – Niwclear yn Rolls-Royce plc, gan ymddeol yn 2013. Dros y 15 mlynedd flaenorol, gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Peirianneg a Thechnoleg i Rolls-Royce plc, gan gynnwys Pennaeth Awdurdod Technegol i’r gwaith Llongau Tanfor Niwclear.
Ar ôl PhD mewn Peirianneg Cymhwysol, dechreuodd Steve ei yrfa gyda’r Sefydliad Asio yn 1976, gan ddrchafu i fod yn Bennaeth Peirianneg, cyn ymuno â Rolls-Royce a Chwmnïau Cysylltiedig yn 1996. Fe’i urddwyd yn Gymrawd o Academi Frenhinol Peirianneg yn 2002.
Yn ogystal â’i rôl fel cyfarwyddwr anweithredol mae Steve yn cadeirio Bwrdd Technegol Ymgynghorol y LNC. Mae’n parhau i wasanaethu fel aelod Annibynnol o sawl Bwrdd Niwclear Ymynghorol ac y mae’n Athro anrhydeddus yng Ngholeg Imperial Llundain.
Iain Clarkson
Iain Clarkson
Ymunodd Iain â Bwrdd LNC yn Hydref, 2019 ar ôl gwasanaethu fel Prif Swyddog Ariannol WYG plc, busnes ymgynghori, peirianneg a rheoli prosiect rhyngwladol cyn hynny. Cyn iddo fod yn y rôl honno, yr oedd Iain yn Gyfarwyddwr Cyllid ar gyfer busnes Ynni Glân Amec Foster Wheeler, a chyn hynny roedd ganddo amryw o swyddi fel Cyfarwyddwr Cyllid yng Nghwmni Trydan Westinghouse, darparwr technoleg niwclear byd-eang, gan gynnwys dau gyfnod o weithio yn yr Unol Daleithiau.
Dechreuodd Iain ei yrfa gyda Coopers & Lybrand lle enillodd gymwysterau ACA cyn symud i Gyllid Corfforaethol i weithio ar Uno a Chaffaeliadau. Symudodd i weithio o fewn diwydiant yn 1996 ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth gyllidol mewn busnesau ymgynghori a pheirianneg rhyngwladol gydag arbenigedd penodol yn y sector ynni rhyngwladol.
Yn ogystal â’i rôl fe cyfarwyddwr anweithredol, mae Iain yn cadeirio Pwyllgor Archwiladau Bwrdd y LNC.
Matt Miller
Matt Miller
Ymunodd Matt â’r LNC ym Mehefin 2018 ac fe’i apwyntiwyd yn Brif Swyddog Ariannol yn Ebrill 2019. Ymunodd â’r busnes o BAE Systems lle yr oedd wedi treulio 16 o’r blynyddoedd blaenorol mewn amrywiaeth o rolau, yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Cyllid i Raglen Llongau Tanfor Dreadnought.
Gweithiodd Matt ar draws amryfal fusnesau o fewn BAE Systems lle datblygodd ddealltwriaeth ddofn o Reolaeth Ariannol, Rheolaeth Gorfforaethol a Rheolaeth Gwybodaeth a Thechnoleg.
Mae Matt yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheolaethol ac yn sefyll fel aelod o’r Gronfa Les CIMA (SSCRh). Y tu allan i waith, y mae’n Hyfforddwr Rygbi Cynghrair cymwysedig gyda Chorley Panthers.
Claire Flint
Claire Flint
Penodwyd Claire Flint i Fwrdd LNC yn Ebrill 2017, ar ôl gwasanaethu fel cyfarwyddwr cysylltiol anweithredol o 2014 – 16, dan gynllun “Women on Board” y Llywodraeth.
Yn ei gyrfa weithredol, yn fwyaf diweddar yr oedd Claire yn Gyfarwyddwr Grŵp Adnoddau Dynol a Brand i Oxford Instruments plc, darparwyr offer nano-dechnolegol blaenllaw rhyngwladol, yn gwasanaethu ar eu Bwrdd Rheoli am dros 10 mlynedd.
Yn awr mae Claire yn dilyn gyrfa luosog sy’n cynnwys Swyddi Cyfarwyddwyr Anweithredol ac ymgynghori arweinyddol. Mae gan Claire BA mewn hanes o Brifysgol Llundain a thystysgrif ôl-raddedig mewn astudiaethau llafur.
Anna Payton
Anna Payton
Ymunodd Anna â Buddsoddiadau Llywodraeth y DU (UKGI) yn Hydref 2012 ac fe’i penodwyd i Fwrdd Labordy Niwclear Cenedlaethol fel aelod Anweithredol yn 2018.
Dechreuodd ei gyrfa fel cyfreithwraig cyllid prosiect yn Allan ac Overy, yn arbenigo mewn Menter Cyllid Preifat (PFI) a thrafodion isadeiledd ynni. Yr oedd ei phrofiad proffesiynol wedi hyn yn cynnwys rolau masnach a chyllid prosiect yn y sector ynni, fel rheolwr ariannol i gronfa ynni ac isadeiledd yn Zurich, a chyn hynny fel rheolwr masnachol yn isadran menter corfforaethol yr Ymddiriedolaeth Carbon.
Yn ystod ei hamser yn UKGI, y mae Anna wedi gweithio’n benodol gyda chyn Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) ar strwythurau cyflenwi ar gyfer cymhellion ynni adnewyddadwy, ac erbyn hyn wedi bod yn arwain gwaith tai y UKGI gyda Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn ogystal â chynghori’r Adran Drafnidiaeth ar ddarparu rhwydwaith rheilffordd amgen. Mae Anna hefyd yn arwain agweddau o ymarfer rheolaeth corfforaethol mewnol y UKGI.
Clare Barlow
Clare Barlow
Ymunodd Claire â ni fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac aelod o Fwrdd LNC ym Mehefin 2018 o Systemau BAE, lle treuliodd y deng mlynedd diwethaf yn rhedeg yr agenda pobl i’r adran Gornest Awyr. Arweiniodd Clare y tîm AD, a oedd yn cynnwys 23 o weithwyr AD proffesiynol ar draws y DU, Dwyrain Canol ac Ewrop. Fel aelod o Fwrdd Gornest Awyr, yr oedd Clare yn gyfrifol am strategaeth, perfformiad ariannol, rheolaeth, cysylltiadau Cwsmeriaid a Gweithwyr. Cyn gweithio i Systemau BAE, yr oedd Clare yn Bennaeth AD yn y Post Brenhinol a British Airways.
Daw Clare â’i phrofiad helaeth mewn datblygu timau perfformio uchel, gyda ffocws ar ddysgu a datblygu parhaus.
Mae Clare yn angerddol am bobl a chyfrannu i Strategaeth Cyfundrefnol a bydd yn arwain ar ddatblygiad ein strategaeth pobl. Mae Clare wedi ymuno â ni ar adeg hynod gyffrous yn ein hanes ac yn edrych ymlaen i’n cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun diwylliant a phobl i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein hamcanion strategol a darparu ein cynllun newid.
David Beacham
David Beacham
Penodwyd David yn Brif Swyddog Cwsmer (CCO) cyntaf erioed LNC yn Nhachwedd 2016, ac yn y rôl honno y mae’n gyfrifol am ddarpariad cyflawn gweithrediadau LNC tra’n sicrhau fod darparu gwerth i’n cwsmeriaid wrth wraidd y sefydliad.
Y mae David yn Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Peirianwyr Sifil ac mae ganddo enw da yn y maes o wella perfformiad tîm a darparu prosiectau heriol i gwsmeriaid. Mae ei brofiad niwclear yn cynnwys gweithio ar brosiectau pwysig yn Hinkley Point C, Sizewell C, Wylfa, Sellafield, Drigg, Devonport a Barrow. Yn ogystal â hynny, mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth sy’n ymestyn o Giwba i India ac o Taiwan i Rwmania.
Fiona Rayment OBE
Fiona Rayment OBE
Fiona Rayment Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg y LNC. Mae ganddi fwy na 25 o flynyddoedd o brofiad diwydiant niwclear yn gweithio yn anad dim o fewn rolau gweithrediad a chynllunio strategol ar draws nifer o wahanol safleoedd niwclear, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Y mae’n gemegydd siartredig a pheriannydd gyda PhD mewn cemeg o Brifysgol Ystrad Clud, Glasgow ac mae’n gymrawd o Academi Frenhinol Peirianneg, y Gymdeithas Cemeg Frenhinol ac o Sefydliad Niwclear y DU. Y mae gan Fiona hefyd MBA o Ysgol Fusnes Manceinion.
Yn ddiweddar, gwsanaethodd Fiona fel aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Euratom, Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Niwclear Labordy Cenedlaethol Idaho, Bwrdd Cymdeithas Niwclear yr Unol Daleithiau a hi yw cadeirydd diwethaf uniongyrchol Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear y DU. Mae ei rolau eraill ar draws y sector yn cynnwys bod ar fwrdd Sefydliad Niwclear y DU, yn aelod o Gyngor Diwydiant Niwclear ac yn aelod o Banel Ymgynghorol Annibynnol, Prif Arolygydd Niwclear y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear.
Mae hi’n cynrychioli y DU yn rheolaidd mewn nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, ac yn cyflwyno prif areithiau mewn amryw o gynadleddau niwclear rhyngwladol ac ar hyn o bryd y mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Llywio a Biwro NEA yr OECD. Anrhydeddwyd Fiona ag OBE yn 2017 a’r Légion d’Honneur Ffrengig yn 2020.