Paul Howarth
Paul Howarth
Penodwyd Paul fel Rheolwr - Gyfarwyddwr y Labordy Niwclear Cenedlaethol ar y 1af o Ionawr 2011. Y mae wedi rhedeg grwpiau mawr a phortffolios helaeth mewn amgylcheddau academaidd a busnes fel ei gilydd ac wedi ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ar draws y Llywodraeth, byd academaidd a diwydiant. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o faterion ymchwil cyfundrefnau niwclear cenedlaethol a rhyng-genedlaethol.
Dechreuodd Paul ei yrfa drwy weithio ar Raglen Ymhollti Ewropeaidd lle cwblhaodd ei PhD. Yn dilyn hynny gweithiodd ar drosglwyddo technoleg yn y diwydiant lled-ddargludyddion ac ar y rhaglen niwclear yn Siapan. Gweithiodd i BNFL mewn amryw o safleoedd yn y DU a rolau yn cynnwys masnacheiddio technoleg, cefnogi peiriannau a datblygu polisi, gan orffen drwy gefnogi Llywodraeth y DU ar yr achos i saernïo niwclear newydd. Yn ogystal, cydsefydlodd Paul Sefydliad Niwclear Dalton a gweithio i’r gyfundrefn Battele yn yr Unol Daleithiau, ochr yn ochr â Labordai Cenedlaethol yr UD ar ddatblygu cytundeb M&O. Yn 2009 roedd yn rhan o'r tîm M&O y dyfarnwyd y cytundeb i redeg LNC.
Y mae Paul hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Arloesi, Ymchwil a Chyrff Technolegol (AIRTO). Fe’i urddwyd i’r Academi Frenhinol Beirianneg yn 2014.
Matt Miller
Matt Miller
Ymunodd Matt â’r LNC ym Mehefin 2018 ac fe’i apwyntiwyd yn Brif Swyddog Ariannol yn Ebrill 2019. Ymunodd â’r busnes o BAE Systems lle yr oedd wedi treulio 16 o’r blynyddoedd blaenorol mewn amrywiaeth o rolau, yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Cyllid i Raglen Llongau Tanfor Dreadnought.
Gweithiodd Matt ar draws amryfal fusnesau o fewn BAE Systems lle datblygodd ddealltwriaeth ddofn o Reolaeth Ariannol, Rheolaeth Gorfforaethol a Rheolaeth Gwybodaeth a Thechnoleg.
Mae Matt yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheolaethol ac yn sefyll fel aelod o’r Gronfa Les CIMA (SSCRh). Y tu allan i waith, y mae’n Hyfforddwr Rygbi Cynghrair cymwysedig gyda Chorley Panthers.
Clare Barlow
Clare Barlow
Ymunodd Claire â ni fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac aelod o Fwrdd LNC ym Mehefin 2018 o Systemau BAE, lle treuliodd y deng mlynedd diwethaf yn rhedeg yr agenda pobl i’r adran Gornest Awyr. Arweiniodd Clare y tîm AD, a oedd yn cynnwys 23 o weithwyr AD proffesiynol ar draws y DU, Dwyrain Canol ac Ewrop. Fel aelod o Fwrdd Gornest Awyr, yr oedd Clare yn gyfrifol am strategaeth, perfformiad ariannol, rheolaeth, cysylltiadau Cwsmeriaid a Gweithwyr. Cyn gweithio i Systemau BAE, yr oedd Clare yn Bennaeth AD yn y Post Brenhinol a British Airways.
Daw Clare â’i phrofiad helaeth mewn datblygu timau perfformio uchel, gyda ffocws ar ddysgu a datblygu parhaus.
Mae Clare yn angerddol am bobl a chyfrannu i Strategaeth Cyfundrefnol a bydd yn arwain ar ddatblygiad ein strategaeth pobl. Mae Clare wedi ymuno â ni ar adeg hynod gyffrous yn ein hanes ac yn edrych ymlaen i’n cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun diwylliant a phobl i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein hamcanion strategol a darparu ein cynllun newid.
David Beacham
David Beacham
Penodwyd David yn Brif Swyddog Cwsmer (CCO) cyntaf erioed LNC yn Nhachwedd 2016, ac yn y rôl honno y mae’n gyfrifol am ddarpariad cyflawn gweithrediadau LNC tra’n sicrhau fod darparu gwerth i’n cwsmeriaid wrth wraidd y sefydliad.
Y mae David yn Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Peirianwyr Sifil ac mae ganddo enw da yn y maes o wella perfformiad tîm a darparu prosiectau heriol i gwsmeriaid. Mae ei brofiad niwclear yn cynnwys gweithio ar brosiectau pwysig yn Hinkley Point C, Sizewell C, Wylfa, Sellafield, Drigg, Devonport a Barrow. Yn ogystal â hynny, mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth sy’n ymestyn o Giwba i India ac o Taiwan i Rwmania.
Fiona Rayment OBE
Fiona Rayment OBE
Fiona Rayment Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg y LNC. Mae ganddi fwy na 25 o flynyddoedd o brofiad diwydiant niwclear yn gweithio yn anad dim o fewn rolau gweithrediad a chynllunio strategol ar draws nifer o wahanol safleoedd niwclear, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Y mae’n gemegydd siartredig a pheriannydd gyda PhD mewn cemeg o Brifysgol Ystrad Clud, Glasgow ac mae’n gymrawd o Academi Frenhinol Peirianneg, y Gymdeithas Cemeg Frenhinol ac o Sefydliad Niwclear y DU. Y mae gan Fiona hefyd MBA o Ysgol Fusnes Manceinion.
Yn ddiweddar, gwsanaethodd Fiona fel aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Euratom, Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Niwclear Labordy Cenedlaethol Idaho, Bwrdd Cymdeithas Niwclear yr Unol Daleithiau a hi yw cadeirydd diwethaf uniongyrchol Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear y DU. Mae ei rolau eraill ar draws y sector yn cynnwys bod ar fwrdd Sefydliad Niwclear y DU, yn aelod o Gyngor Diwydiant Niwclear ac yn aelod o Banel Ymgynghorol Annibynnol, Prif Arolygydd Niwclear y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear.
Mae hi’n cynrychioli y DU yn rheolaidd mewn nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, ac yn cyflwyno prif areithiau mewn amryw o gynadleddau niwclear rhyngwladol ac ar hyn o bryd y mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Llywio a Biwro NEA yr OECD. Anrhydeddwyd Fiona ag OBE yn 2017 a’r Légion d’Honneur Ffrengig yn 2020.
James Murphy
James Murphy
Mae James wedi bod yn Brif Swyddog Strategaeth y LNC ers 2017. Y mae’n arwain bwrdd y cyfarwyddwyr Strategaeth, Gwyddoniaeth ac Arloesi (SSI) o fewn LNC. Y mae SSI yn dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr strategaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg a chyfathrebu. Mae SSI yn gyfrifol am ddiffinio a darparu sut y mae LNC yn cyflawni ei bwrpas o ddefnyddio ‘gwyddoniaeth niwclear er budd cymdeithas’ ar draws pedwar maes ffocws allweddol:
- Ynni glân
- Adferiad amgylcheddol
- Meddygaeth niwclear
- Diogelwch a Rhwystro Amlhau
Mae James yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid y llywodraeth, arweinwyr diwydiant ac arbenigwyr academaidd i benderfynu sut y gall gwyddoniaeth niwclear fynd i’r afael â rhai o brif heriau a wynebir gan gymdeithas a gweithredu strategaethau i LNC chwarae ei ran i’r eithaf.
Cyn LNC, gweithiai James yn ymarferiad strategaeth Deloitte – Monitor Deloitte - yn arwain ymrwymiadau yn y sectorau amddiffyn, diogelwch a phlismona. Canolbwynt ei waith oedd darparu prosiectau strategol cymhleth ar gyfer cleientiaid yn y sector breifat a chyhoeddus, gan ganolbwyntio ar dwf busnes, datblygiad corfforaethol ac arloesi.
Cyn ymuno â Deloitte, ef oedd yn arwain y timau Gwasanaethau Amddiffyn, Seiber ac Argyfwng yn techUK, y gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli cwmnïau technoleg y DU. Daeth hyn ar ôl iddo dreulio sawl blwyddyn yn Systemau BAE lle roedd ei waith yn canolbwyntio ar dwf rhyngwladol a strategaeth, gan gynnwys penodiadau yn Saudi-Arabia, Washington DC ac India.
Dechreuodd James ei yrfa yn y cyfryngau, yn gyntaf ym maes cyhoeddi ac yna fel newyddiadurwr, yn gweithio mewn newyddion lleol a chenedlaethol cyn arbenigo mewn materion rhyngwladol a diogelwch.