Amser i Ddarparu Gwir Weithredoedd
Daeth ein digwyddiad SciTec 2019, a gynhaliwyd yn Birmingham fis Medi, â thua 130 o arweinwyr o 40 sefydliad ynghyd – niwclear ac anniwclear fel ei gilydd- i ystyried Dyfodol y Diwydiant Niwclear.
Cydweithredu ar waith
Yr Athro Andrew Sherry, Prif Wyddonydd LNC, gyflwynodd yr anerchiad agoriadol, gan fyfyrio ar yr hyn sy’n cymell newid yn y diwydiant niwclear a thynnu cymariaethau gydag esblygiad y diwydiant Gofod; diwydiant a reoleiddir yn helaeth ac a esblygodd yn llwyddiannus trwy ffyrdd gwahanol o feddwl, buddsoddiad newydd a dull newydd o reoleiddio.
Dr Tim Stone, Cadeirydd Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, a ddilynodd gydag araith gyweirnod a oedd yn cefnogi’r angen am newid yn y diwydiant; ar gyfer dyfodol ein plant a’n wyrion. Tynnodd sylw at rôl allweddol arloesi ac fe heriodd y gynulleidfa i weithredu i lunio dyfodol gwahanol lle mae niwclear wrth wraidd sero-net.
Arloesi ar waith
Cynhaliwyd cyfres o weithdai ysgogol wedyn, a oedd yn archwilio, yn gydweithredol a chreadigol, rôl niwclear yn narpariaeth sero-net drwy arloesi mewn cydweithrediad, technoleg, arweinyddiaeth a rheoleiddio.
Technolegau arloesol: yr oedd hwn yn archwilio sut y mae technoleg arloesol yn mynd i’r afael â ffyrdd heriol o weithio. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar greu meddalwedd newydd a’r defnydd o ddronau i fapio lefelau ymbelydredd.
Cadwyn cydweithredu a chyflenwi: edrych oedd hwn ar rwystrau a chyfleoedd i arloesi yn y sector; ac archwiliodd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a rhaglenni a gynlluniwyd i gyflymu arloesedd.
Diwylliant ac arweinyddiaeth: canolbwyntiwyd ar rôl arweinyddiaeth a diwylliant; a sut mae cael y meddylfryd, y sgiliau a’r offer cywir i gynorthwyo i ddarparu arloesedd.
Arloesi a rheoleiddio: archwiliwyd sut y gall perthynas agosach ac ymgysylltiad cynnar â rheolyddion liniaru’r ffordd i hyrwyddo arloesi yn y diwydiant.
Galwad i weithredu:
Sesiwn banel oedd sesiwn olaf y dydd ac yr oedd ganddi un neges glir: “Cydweithiwch ar bob lefel ar draws y sector, ewch y tu hwnt i sgwrsio a darparwch wir weithredu”.