Lle y gallwch wneud rhywbeth anhygoel
Dyma ble mae pobl eithriadol yn gwneud gwaith eithriadol. A gallech chi fod yn un ohonynt. Darganfyddwch beth sydd gan LNC i’w gynnig a gweld beth allech ei gyflawni fel rhan o’n tîm.
Dyma chwe rheswm i ddod a chyflawni pethau gwych gyda ni.
1. Dewch i fod yn rym dros ddaioni
Mae hon yn fwy na swydd. Mae’n gyfle i newid cymdeithas a’r byd er gwell. P’un ai gweithio mewn labordy, swyddfa neu o gartref, mi fyddwch yn chwarae eich rhan mewn prosiectau a fydd yn effeithio ar fywydau miliynau am genedlaethau i ddod. Rydym yn cynorthwyo i ymdrin â newid hinsawdd. Rydym ni’n adfer yr amgylchedd. Rydym ni’n cadw defnyddiau cymhleth yn ddiogel. Ac yr ydym yn datblygu triniaethau meddygol blaengar. Os ydych eisiau defnyddio eich sgiliau i helpu pobl a’r blaned, dyma lle rydych yn perthyn
2. Gwnewch wyddoniaeth anhygoel
Rydym ni’n gwneud pethau na all pobl eraill ond eu dychmygu. Tra mae academyddion yn rhedeg efelychiadau a arbenigwyr diwydiant yn rhedeg gweithfeydd, rydym ni yn cynnal arbrofion byw gyda defnyddiau ymbelydrol i ddatgelu data na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae hyn yn golygu y gallwch ddod wyneb yn wyneb ag amrywiaeth enfawr o brosiectau gwych o archwilio’r gofod a thechnoleg adweithyddion i roboteg a gyriant llong danfor. Beth bynnag fo’ch arbenigedd, mi fyddwch yn wynebu heriau newydd bob dydd wrth weithio ar flaen eich maes.
3. Gwneud gwaith sy’n effeithio y byd go iawn
Mi rown gyfle i chi weld mwy o brosiectau o’u dechrau i’r diwedd. Golyga hyn y gallwch gael perchnogaeth o’ch gwaith, gweld eich syniadau’n dod yn fyw ac ymfalchïo yng nghanlyniadau cadarnhaol eich gwaith caled. Gan fod ein busnes yn pontio’r agendor rhwng diwydiant ac academia, yr ydym yn gallu cael hyd i atebion a datrys problemau yn gynt na’n cyfatebwyr mewn diwydiannau mwy. Mae hyn yn rhoi’r ystwythder inni ddatblygu datrysiadau mae’r byd ei hangen ar hyn o bryd – sy’n golygu y bydd eich cyngor, profiad ac arbenigedd yn aml yn cael ei roi ar waith yn syth mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
4. Rydym ni’n gofalu am ein pobl
Mae gennym ni bob math o bobl yn cyflawni pob math o rolau. Mae hyn yn caniatáu lefel o hyblygrwydd o ran pryd, ble a sut rydych chi’n gweithio a allai eich synnu. Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd eich lles chi. Rydym ni’n cymryd lles a diogelwch pobl yn hynod o ddifrifol oherwydd yr ydym angen i chi fod ar eich gorau pan fyddwch chi’n gweithio ar brosiectau pwysig, allweddol ddiogel ac hynod o arbenigol. Fel rhan o’n tîm, bydd llawer o bobl yn dibynnu arnoch, felly rydym ni’n addo y gallwch chi ddibynnu arnom ni hefyd. Mae hyn yn golygu, os nad oes angen i chi fod ar y safle neu mewn labordy, gallwch weithio lle bynnag sydd orau i chi. Ac os oes angen i chi fod yma’n bersonol, mi wnawn bopeth y gallwn i wneud i chi deimlo’n ddiogel, eich cefnogi a’ch ysbrydoli.
5. Rydym yn credu mewn tegwch a chydraddoldeb
Mae hwn yn le lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u croesawu. Mae ein hymrwymiad parhaus i Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant yn golygu ein bod yn creu man gwaith cynhwysol, wedi’i selio ar bolisïau, gweithdrefnau a thryloywder cyfartal, lle mae gan pawb y rhyddid i fod yn nhw eu hunain a theimlo eu bod yn perthyn. O yrfaoedd cynnar hyd at lefel weithredol, yr ydym ni’n mynd y tu hwnt i ffiniau i gael hyd i bobl i’r swydd. Darllenwch fwy am ein hagwedd tuag at Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant yma: www.nnl.co.uk/about/equality-diversity-and-inclusion/
6. Dyma’ch eiliad
Efallai na fu erioed amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’r sector niwclear. Mae’r angen cynyddol am ynni sydd yn rhydd o garbon yn gyrru’r newid oddi wrth danwydd traddodiadol fel olew a nwy a thuag at ynni niwclear. Mae hyn yn golygu buddsoddiad newydd, prosiectau newydd, heriau newydd, cyfleoedd newydd a galw newydd am bobl talentog fel chi. Pan yr ydych yn cyfuno hyn gyda natur hir-dymor ynni niwclear, ein perthynas gyda’r llywodraeth a potensial am dwf cyffrous, gallwch weld pam fod hwn yn le gwych i greu gyrfa hir, ddiogel a llwyddiannus. Mae gennym yr amser, y cyfleusterau a’r ysfa i’ch cynorthwyo i dyfu a bod y gorau y gallwch fod.