National Nuclear Laboratory

Ein 10 Rheol Euraidd

Mae gweithwyr LNC yn defnyddio ein Rheolau Euraidd yn ystod unrhyw broses caffael. Maent yn cynorthwyo i sicrhau fod ein proses yn deg, yn agored ac yn effeithlon. Yr ydym yn eu rhannu ar ein gwefan er mwyn bod mor dryloyw â phosibl.

  1. Chi’n sy’n gyfrifol am gadw’n cyfrinachedd yn ddiogel. Mae hyn yn angenrheidiol er budd masnachol LNC a’n cyflenwyr.
  2. Ni ddylai gwybodaeth gyfrinachol gael ei rannu oni bai y ceir caniatâd yr arweinydd caffael a fydd yn cael ei bennu ar ddechrau’r prosiect. Hwy fydd y cysylltiad ar gyfer cyflenwyr yn ystod y broses caffael.
  3. Ni ddylid rhannu gwybodaeth am unrhyw agwedd o’r arfarniad cynnig na datgelu canlyniad arfarniad gyda chynigydd. Mae ein safle fel Awdurdod Contractio yn golygu bod raid i ni ddilyn proses gyfreithiol. Dylai unrhyw gyfathrebu â chynigwyr neu gynigwyr posibl gael ei sianelu drwy eich arweinydd caffael.
  4. Peidiwch â thrafod a / neu ddarllen dogfennau sy’n ymwneud ag ymarferion tendr mewn mannau cyhoeddus.
  5. Dylai presenoldeb ym mhob digwyddiad diwydiannol gael ei gofnodi’n ffurfiol.
  6. Peidiwch â derbyn rhoddion a / neu letygarwch yn ystod ymarfer caffael. Dylid logio unrhyw gynnig (hyd yn oed pan wrthodir ef) drwy’r gronfa ddata Adnoddau Dynol.
  7. Peidiwch â defnyddio na chaniatáu i eraill i ddefnyddio brand LNC mewn unrhyw ardystiadau, astudiaeth achos na chyhoeddusrwydd heb ofyn am arweiniad gan y tîm Marchnata a Chyfathrebu.
  8. Dylid cyfeirio pob ymholiad gan gynigwyr neu gynigwyr posibl at y tîm Caffael. Peidiwch byth â chyfarfod â chyflenwyr heb fod ag aelod o’r tîm Caffael yn bresennol.
  9. Os ydych chi’n perthyn, neu os oes gennych berthynas agos gyda chyflogai / perchnogion neu gyflenwr / darpar gyflenwr (yn gynnwys cyn-weithwyr LNC), rhaid i chi ddatgan hyn ar ddechrau unrhyw gaffaeliad.
  10. Dylid adrodd unrhyw dor-cyfrinachedd a / neu wrthdaro gwir fuddiannau, posibl neu ganfyddedig yn syth wrth y tîm Caffael.