National Nuclear Laboratory

Gwybodaeth Am Coronafeirws

Hysbysiad Cyffredinol i Gyflenwyr

Mae LNC yn darparu nifer o raglenni gwaith o bwys cenedlaethol. O’r herwydd, byddwn yn cynnal gweithrediadau diogel yn ein holl safleoedd, gan gynnwys y safleoedd gweithredol yn Sellafield, Springfields a Workington. Yr ydym wedi trafod hyn gyda’r cwmnïau trwyddedu safle ac maent yn llwyr ddeall bwysigrwydd y rhaglenni allweddol a byddant yn cefnogi darpariaeth o’r rhaglenni hyn. Mae uwch reolwyr y dalwyr trwyddedau hefyd yn gytûn ar y camau y mae LNC wedi eu cymryd hyd yma.

Fodd bynnag, byddwn yn oedi rhai prosiectau nad ystyrir yn dyngedfennol neu lle mae ein cwsmeriaid wedi gofyn i ni eu gohirio.

O ganlyniad, yr ydym yn gofyn i’n cadwyn gyflenwi i barhau i ddosbarthu nwyddau a darparu gwasanaethau fel arfer, oni bai eu bod wedi cael cyfarwyddyd penodol i BEIDIO â gwneud hynny gan eu cyswllt LNC. Os nad ydych yn sicr, neu’n methu â chyflawni gwasanaeth arferol, yr ydym yn deall, ac fe wnawn ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn i chi.

Danfoniadau

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd safle Lillyhall yn gweithio llai o oriau ac y gall dderbyn danfoniadau tan 10:30 y.b. yn unig. Dylai cyflenwyr barhau i archebu danfoniad drwy www.dmzonemanager.com. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cael gwybod am unrhyw newidiadau i raglen danfoniadau ar safleoedd eraill.

Os ydych chi’n cael anhawster i ddanfon nwyddau, cysylltwch â’r person a enwir ar eich Gorchymyn Prynu.

Angen cymorth?

Os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os oes gennych gwestiwn nad yw’n gysylltiedig â danfoniadau, e-bostiwch nnl.procurement@uknnl.com ac fe wnawn ymateb cyn gynted â phosibl.