National Nuclear Laboratory

Anfonebu Am Nwyddau Neu Wasanaethau

Mae LNC wedi ymrwymo i dalu ein Cyflenwyr yn unol â Pholisi Taliadau Prydlon y Llywodraeth: https://www.gov.uk/guidance/prompt-payment-policy

Pan na thelir am nwyddau / gwasanaethau gan ddefnyddio Cerdyn Credyd Cwmni (Cerdyn Prynu) mae LNC yn gweithredu system gyfartal teirffordd, sy’n caniatáu i nwyddau a gwasanaethau gael eu harchebu, derbynebu a thalu trwy ein system Byd Busnes (Business World). Golyga hyn gyn belled â bod eich Anfoneb yn cynnwys yr un wybodaeth (pris, nifer ac ati) â’r Gorchymyn Prynu (PO), a bod y person sydd wedi derbyn y nwyddau / gwasanaeth wedi cadarnhau hyn, bydd eich Anfoneb yn cael ei phrosesu yn awtomatig i’r rhediad talu nesaf. Fodd bynnag, os oes unrhyw ran o’r wybodaeth hon ar goll, gallai achosi oedi gan y bydd yr Anfoneb yn cael ei hystyried yn “ddadleuol”. Felly mae’n bwysig cadw at yr egwyddorion canlynol wrth dderbyn archeb gan LNC.

  1. Peidiwch â derbyn unrhyw archebion heb rif Gorchymyn Prynu LNC. Mae’n rhaid i bob archeb fod â rhif Gorchymyn Prynu dilys. Os nad yw’ch Anfoneb yn dangos rhif Gorchymyn Prynu, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch. 7 digid yw ffurf ein rhif archeb ac yn dechrau gyda naill ai 1 (ar gyfer gwasanaethau) neu 7 (ar gyfer nwyddau).
  2. Peidiwch â derbyn archebion ffôn oni bai eu bod yn cael eu talu yn syth â cherdyn Credyd / Prynu. Defnyddir cardiau cwmni yn helaeth drwy’r busnes ac maent yn ddull cwbl ddilys o archebu a thalu am nwyddau, fodd bynnag; peidiwch â derbyn archebion ffôn oni bai y bydd Gorchymyn Prynu yn dilyn yn syth drwy e-bost/ neu bost – a dylech bob amser ofyn am rif Gorchymyn Prynu mewn achos o’r fath.
  3. Sicrhewch fod eich Anfoneb yn cynnwys y nifer dosbarthu cywir. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae cludiad rhannol yn cael eu hanfon.
  4. Sicrhewch fod eich Anfoneb yn dynodi’n glir y llinell archebu y mae’r gost yn cyfeirio ati. Lle mae’r gorchymyn yn cynnwys sawl llinell, weithiau mae’n anodd gwybod y gydberthynas rhwng y Gorchymyn Prynu a’r Anfoneb. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i sicrhau fod y wybodaeth hon yn glir.
  5. Rhaid darparu nodion credyd lle bo hynny’n berthnasol. Dylai nodion credyd ddangos yn glir Rhif y Gorchymyn Prynu, rhif Llinell y Gorchymyn Prynu (ar gyfer archebion aml linellau), nifer a gwerth y credyd.
  6. Mae’n rhaid i bob archeb gael ei anfon yn electronig i accountspayable@uknnl.com. Peidiwch ag anfon eich Anfoneb at y person a wnaeth yr archeb, neu i unigolyn o fewn LNC gan y bydd hyn yn achosi oedi. Os na allwch ddarparu Anfoneb electronig, postiwch yr Anfoneb i:

Accounts Payable
National Nuclear Laboratory
Chadwick House
Birchwood
Warrington
WA3 6AE

Dylid anfon unrhyw ymholiad ynglyn â’ch taliad hefyd i’r cyfeiriad e-bost, neu’r cyfeiriad post uchod. Peidiwch â chysylltu ag unigolion os gwelwch yn dda oherwydd gallai hyn arwain at oedi cyn cyrraedd y person iawn.