National Nuclear Laboratory

Americiwm Mewn Systemau Ynni’r Gofod

DATBLYGU TANWYDD NIWCLEAR NEWYDD AR GYFER GOFOTA

2009 oedd hi pan roddodd Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (AOE) alwad ryngwladol yn gofyn am bartneriaid i ddatblygu’r dechnoleg ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archwilio’r gofod. Atebodd y LNC yr alwad honno gydag ymrwymiad i ddarganfod a datblygu ffynhonell bŵer.

Mae tanwydd niwclear, drwy gyfrwng systemau pŵer radio – isotopau (RPSs), yn parhau i fod yr unig ffordd i bweru teithiau tymor hir, hirbell lle nad yw’r haul yn tywynnu. Ar y pryd, yr opsiwn niwclear oedd Plwtoniwm 238. Anfantais hynny i’r AOE, oedd fod yr holl Blwtoniwm yn eiddo i’r Unol Daleithiau a Rwsia, a oedd yn golygu na alla’r AOE ddatblygu a rheoli ei deithiau gofod ei hun. Byddai cael hyd i gyfrwng cyfatebol yn rhoi annibyniaeth i’r AOE ac yn gwneud archwilio’r gofod yn fwy fforddiadwy

Ymunodd y LNC â thîm i gynnal yr astudiaeth gwmpasu gychwynnol. Darganfyddodd y tîm ymchwil fod plwtoniwm o weddillion tanwydd niwclear yn creu radio – isotop arall wrth ddirywio – Americiwm 241. Radio-isotop sy’n cynhyrchu gwres yw Americiwm 241 sydd â nodweddion tebyg i’r Pliwtoniwm 238 a ddefnyddir mewn systemau pŵer radio-isotop.

Nid yn unig hynny, ond mae gan Americiwm 241 hanner-oes o oddeutu 430 mlynedd o’i gymharu a thua 90 mlynedd ar gyfer Pliwtoniwm 238, gan ei wneud yn fwy addas ar gyfer teithiau hir dymor. A, gan fod dros 100 tunnell o blwtoniwm a wahanwyd yn sifil yn y DU yn unig, mae Americiwm 241 yn cynnig potensial i fod yn ffynhonell ynni Ewropeaidd hir-dymor, cynaliadwy

Ar ôl adnabod yr radio-isotop amgen addas a phrofi ei ymarferoldeb fel ffynhonell bŵer ar gyfer gofota, mae arloesedd y LNC wedi rhoi hyder i’r AOE y mae ei angen i ymroi i daith benodol. Yn awr, mae’n bwriadu lansio taith i’r lleuad tua diwedd y 2020au, sy’n golygu y gallai’r genhedlaeth nesaf o Ewropeaid sy’n glanio ar y lleuad, ddigwydd o fewn y ddegawd nesaf.

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y LNC yn parhau i weithio gyda’r AOE i ddatblygu proses gynhyrchu gynaliadwy ar gyfer cyflenwi Americiwm 241 wrth weithio gyda phartneriaid eraill sy’n datblygu gweddill y dechnoleg i sicrhau lefel uchaf o ddiogelwch niwclear wrth lansio a thrwy gydol oes y prosiect.

I’r tîm y tu cefn i’r arloesi serol hwn, mae’n hynod gyffrous dychmygu y bydd cynnyrch eu hymchwil yn hedfan o’r byd hwn erbyn i LNC droi’n 20 oed.