National Nuclear Laboratory

Digomisiynu Yn Sellafield

Ers 1947 mae defnyddiau niwclear wedi bod ar safle Sellafield yng Nghumbria mewn ryw ffurf neu’i gilydd, yn gyntaf fel rhan o raglen arfau niwclear Prydain ac yn ddiweddarach fel cartref pedwar cydweithydd niwclear at ddibenion cynhyrchu ynni niwclear. Yn awr, ar ôl mwy na hanner canrif o weithgaredd niwclear, mae’r safle’n cael ei ddigomisiynu.

The Sellafield site

Mae graddfa’r weithred digomisiynu yn helaeth, ac mae’n rhaid datblygu llawer o’r prosesau o’r newydd gan ddefnyddio’r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf a’r arbenigedd technolegol. O ganlyniad, mae Sellafield yn aml wedi ceisio cefnogaeth LNC fel partner arbenigol i gynorthwyo i ddatblygu’r prosesau angenrheidiol i ddychwelyd y safle i’r safon y cytunwyd arno.

Un enghraifft o’r fath yw’r her o ddigomisiynu “blychau menig” ar y safle. Mae’r fframweithiau haearn caeëdig hyn, sydd fel arfer yn mesur pedair troedfedd wrth bedair troedfedd wrth dair troedfedd wedi bod yn cael eu defnyddio er mwyn trin defnyddiau alffa ymbelydrol yn ddiogel. Mae ganddynt ffenestri a thyllau i’r menig er mwyn i dechnegwyr drin defnyddiau niwclear heb ddod i gysylltiad uniongyrchol a fyddai’n achosi halogiad.

Gellir dod o hyd i’r blychau menig hyn ar hyd a lled safle Sellafield, ffaith sy’n creu problem o ran cael gwared ohonynt. Mae eu torri’n ddarnau yn creu llygredd niwclear, gan greu risg diogelwch sylweddol i unrhywun sy’n ymwneud â’r gwaith hynny.

Ond mae LNC yn ymfalchïo yn ei arloesedd gan fynd ati i weithio mewn partneriaeth â Sellafield Cyf i ddod o hyd i ateb a fuasai’n caniatáu y tîm safle yn Sellafield i dorri’r blychau menig i ddarnau llai er mwyn cael gwared arnynt yn effeithlon.

Drwy gyfuno’r gwaith diweddaraf mewn roboteg gyda thechnoleg arloesol ar gyfer torri laser, fe ddatblygodd y tîm prosiect raglen gyfrifiadurol a fyddai’n galluogi i weithredwr a oedd yn gweithio o bell wneud cyfres o doriadau o ddiogelwch ystafell reoli a fyddai’n lleihau cyfaint y blwch menig yn sylweddol heb unrhyw risg i iechyd dynol. Drwy dorri’r blychau menig yn ddarnau, mae’n bosibl yn awr i gael gwared ar nifer o flychau menig yn y gofod a gymerwyd yn flaenorol gan un yn unig, drwy wella effeithiolrwydd pacio ac felly’n arbed arian. Y buddiannau ar gyfer y rhaglen digomisiynu yn Sellafield yw gwella diogelwch ac effeithiolrwydd yn nhermau gofod a chost.

Yn hanfodol, ni wnaeth LNC ddatblygu y technolegau robotig a thorri laser, ond gyda thîm o rai o’r bobl mwyaf gwybodus a phrofiadol yn y wlad, llwyddwyd i ychwanegu gwerth drwy arloesi gan harneisio buddiannau technoleg presennol a’i gyplysu â datblygiad meddalwedd newydd y LNC. Mae’r datrysiad yn awr wedi ei drosglwyddo yn ôl i Sellafield Cyf wrth iddo symud i gyfnod cyn-weithredol ac ail-leoli.