National Nuclear Laboratory

Hyrwyddo Gwyddoniaeth, Deall Defnyddiau – Gyda Sellafield Cyf.

Y mae’n debygol mai Sellafield yw safle niwclear mwyaf adnabyddus y DU. Ni ddylid synnu felly, fod gan y LNC gysylltiadau agos gyda’r safle. Pan ddechreuodd y tîm safle siarad â ni ynglŷn â datblygiad o waith trin gwastraff newydd i’w fewngapsiwleiddio’n uniongyrchol i drin metel wraniwn, roeddem eisiau eu cynorthwyo.

Byddai’r datblygiad newydd arfaethedig yn cymryd wraniwm, lawer ohono wedi cyrydu, ei gymysgu â sment a’i dywallt i mewn i gynwysyddion newydd i’w storio yn ddiogel yn hir dymor. Mae metel wraniwm yn cynhyrchu wraniwm ocsid a wraniwm hydrid fel y mae’n cyrydu, y ddau ohonynt yn hynod o pyrofforig, ac yn debygol o achosi risg sylweddol o ymlosgi digymell. Yr oedd yr ocsidau a’r hydridau eisioes yn bresennol yn y gwastraff fel yr âi drwy’r gwaith.

Rig hall yn Labordy Preston

Cyn gwario i fyny at £1 biliwn ar ddatblygiad gwaith trin gwastraff newydd, comisiynodd Sellafield Cyf y LNC i wneud y gwyddoniaeth sylfaenol i gynorthwyo i ddeall maint y broblem ac a oedd angen mesurau diogelwch ychwanegol. Gwnaethom waith ymchwil sylweddol dros gyfnod o sawl blwyddyn gan ddefnyddio blychau menyg rhydd o ocsigen yn ein safle ym Mhreston. Astudiasom ymddygiad sylfaenol y defnydd a dan wahanol amodau i weld sut yr oedd yn ymddwyn ac yn adweithio.

Canlyniad ein hymchwil oedd darganfod fod y farn a fodolai eisioes ynglŷn ag adweithedd metel wraniwm yn cyrydu yn or-besimistaidd, ac y gallai’r wraniwm, mewn gwirionedd, gael ei brosesu mewn cyfleuster a fodolai ar y pryd yn Sellafield heb angen cymysgu.

Nid yn unig yr arbedodd y gwaith ymchwil hwn swm sylweddol o arian ac amser i Sellafield, ond datblygodd wybodaeth y byd am y defnydd er budd yr holl gymuned wyddonol.