National Nuclear Laboratory

Cynhyrchu Nwy Yng Ngwastraff Fukushima Daiichi

Yn dilyn y tswnami ddinistriol yn 2011, a achosodd y ddamwain yng Ngorsaf Bŵer Niwclear Fukushima Daiichi, yr oedd tîmau’r safle ar gromlin ddysgu serth, gan fynd o reolaeth ddiogel atomfa sefydlog i gynyddu gwybodaeth newydd yn gyflym mewn amgylchedd a oedd yn newid yn sydyn .

The Fukushima Daiichi Nuclear Power Plant in Japan

Blynyddoedd wedyn, mae heriau yn parhau yn Fukushima Daiichi ac mae’r tîm Siapaneaidd yn aml yn edrych at weddill y byd am arfer da wrth eu trin.

Dyma a ddigwyddodd pan ofynnodd y tîm yn Fukushima i LNC am gyngor am drin cynhyrchiad nwy wrth waredu gwastraff. Yn y gorffennol, nid oedd eu gwastraff yn cynhyrchu nwy, ond ar ôl y ddamwain, yr oedd yn ofynnol i’r tîm safle drin mathau newydd ac anghyfarwydd o wastraff. Yr oedd cynhyrchiad hydrogen o’r gwastraff yn achosi problem benodol, oherwydd hylosgedd uchel y nwy.

Gwahoddwyd y LNC i weithio ochr yn ochr â thimau o Ffrainc ac UDA drwy gwmnïau trydydd person Siapaneaidd i rannu gwybodaeth ac arfer da ar y ffordd orau o ddelio â’r mater anodd hwn. Gan ddefnyddio ein cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, yr oeddem yn gallu llunio adroddiad manwl a oedd yn amlygu’r materion hyn a’r datrysiadau posibl. Buom yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr gweithredol a thechnegol a oedd yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth a darlithoedd addysgiadol.

Gwnaeth ein tîm LNC greu argraff mor gryf, fel y’n gwahoddwyd i ymgymryd â rôl fwy blaenllaw yn yr ail gyfnod, sef prosiect parhaus i egluro’n fanylach yr hyn y byddem yn ei wneud gyda’r gwastraff hwnnw pe byddai yn cael eu cynhyrchu yn y DU. Gan ddefnyddio ein henw da a’n gwybodaeth arbenigol, yr ydym yn cefnogi tîm Fukushima i gael newid yn y gyfraith a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio pecynnau o wastraff gyda awyrdyllau (fel y gall nwy ddianc yn hytrach na chronni a chynyddu’r perygl o ffrwydro).

Yn gyfredol, nid yw pecynnau o wastraff gyda awyrdyllau yn cael eu caniatáu yn Siapan, er eu bod yn gyffredin yn y DU ac UDA.

Drwy’r prosiect hwn, mae LNC yn gwneud newid gweladwy i dechnoleg niwclear ar raddfa fyd-eang ac yn cadarnhau ein henw da fel arweinwyr drwy’r byd yn y diwydiant.

*