National Nuclear Laboratory

Triniaeth Robotig ar gyfer Trefniad ac Ymwahanu Niwclear (RoMaNS)

Disgrifiad Prosiect

Bwriad prosiect Horizon 2020 RoMaNs yr UE oedd cymryd camau arwyddocaol mewn rheolaeth ymreolaethol, tele-weithredol ar gyfer triniaeth a reolir o bell. Cafwyd ysbrydoliaeth o brosiect Offer Blychau Amgáu (BEP) yn Sellafield.

Canolbwyntiodd RoMaNS yn benodol ar ddatblygu technoleg ymreolaethol.

Datrysiad Technegol

Yr oedd consortiwm RoMaNs yn cynnwys Prifysgol Birmingham, y LNC, Prifysgol Darmstadt, y Commissariat à l’Energie Atomique (CEA) a’r Ganolfan Cenedlaethol Ffrengig ar gyfer Ymchwil Wyddonol (CNRS).

Roedd gan pob partner faes ffocysu penodol wrth ddatblygu gallu lled – ymreolaethol ac ymwahanu. Canolbwyntiodd Prifysgol Birmingham ar algorithmau trin ar sail gweledigaeth a chynllunio tafl-lwybr heb wrthdrawiadau. Canolbwyntiodd Prifysgol Darmstadt ar algorithmau dysgu. Canolbwyntiodd CEA a CNRS ar synwyryddion cyffyrddiadol, system delepresenoldeb cynorthwyedig ac algorithmau rheolaeth a rannwyd.

Yn olaf, darparodd y LNC y cefndir niwclear a diwydiannol a’r cyfleuster profi diwydiannol.

Buddion – Pa wahaniaeth a wnaeth.

Mae cynllunio tafl-lwybr robotig yn cael ei ddatrys mewn meddalwedd cynllunio llwybr, lle mae cinemateg robotig yn cael eu cyfrif yn erbyn geometreg dadansoddi gwrthrych (wedi ei gynhyrchu o ddata synhwyrydd) a diweddbwynt targed. Mae’r cyfrifiadau hyn yn caniatau i’r system gynhyrchu’r llwybr cyflymaf a mwyaf diogel er mwyn osgoi gwrthdrawiadau o leoliad a chyfeiriadedd presennol y robot i’r pwynt targed ar y bwrdd didoli.

Mae gan y prosiect RoMans gymwysiadau traws-sector pell-gyrhaeddol ym maes niwclear, awyrofod, olew a nwy, gofod, bwyd ac amaethyddiaeth – ac o fewn y diwydiant niwclear ei hun. Nod yr ymchwil yw hyrwyddo prosesu gwastraff, digomisiynu, gofal o asedau, cynnal a chadw, atgyweirio a thechnegau nodweddu a samplo