Drwy gynnal yr arbrofion hyn yn y gwaith anweithredol gall y technegwyr asesu sut mae prosesau gwahanol yn gweithio a’r effaith y gallant ei gael ar y defnyddiau a ddefnyddir, tra’n cynnal diogelwch. Unwaith y maent wedi eu profi’n llawn gall prosesau newydd gael eu trosglwyddo i’r safle gweithredol.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’r LNC wedi gweithredu replica uniongyrchol, ar raddfa eang o’r gwaith gwydreiddio gwastraff yn Sellafield. Mae’r gwaith ei hun yn trin gwastraff hynod o weithredol drwy ferwi’r hylif sy’n weddill ar ôl ei lanhau a’i droi’n wydr. Mae’r rig profi yn caniatáu i dîm technegol y LNC i newid paramedrau’r prosesau drwy arbrawf er mwyn gwella effeithiolrwydd ac ymgorffori gwahanol fathau o wastraff.
Dros y blynyddoedd, mae’r rig profi wedi datblygu datrysiadau technolegol newydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r broses o brosesu gwastraff niwclear yn Sellafield. Er enghraifft drwy gynnal cyfres o arbrofion yn y rig profi, gallai’r tîm technegol newid y llwythiad (faint o wastraff a all gael ei gynnwys yn y gwydr) o 25% i 28 – 29%. Golyga hyn fwy o wastraff ym mhob cynhwysydd, gan arwain at lai o gynwysyddion yn gyffredinol.
Mae’r tîm wedi arbrofi hefyd gyda’r math o ddefnyddiau y gellir eu cynnwys yn y gwydr. Mae cynnwys amrediad ehangach o ddefnyddiau yn y gwydr yn golygu fod llai o ddefnyddiau ar ôl ac angen triniaeth ar wahan i gael gwared ohonynt.
Un o’r meysydd mwyaf arwyddocaol y mae’r rig profi wedi cael effaith arno yw yn y glanhau ôl -weithredol. (POCO) Yn ystod hyn, mae llawer o hylif yn cael ei ddefnyddio i lanhau tu mewn i’r gwaith niwclear. Canlyniad hyn yw fod llawer o elifion (dŵr wedi ei lygru) yn cynnwys gwahanol ddarnau ymbelydrol ac o’r herwydd ni ellir ei ollwng i’r amgylchedd naturiol.
Defnyddiodd tîm y LNC y rig profi i ddatblygu’r broses o ferwi’r dŵr i ffwrdd i adael dim ond y darnau ymbelydrol, a oedd gan lai o gyfaint o lawer na’r elifion ei hun. Arbrofasant gyda gwahanol ddefnyddiau gwastraff i weld beth allai gael ei gynnwys yn y broses wydreiddio a gweithio i ddatblygu gwydr addas ar gyfer eu trin a’u storio yn y tymor hir.
O ganlyniad, bydd Sellafield yn gallu gwneud arbedion ariannol sylweddol a chau lawr cyfleusterau sydd wedi dod i ben yn gynt yn ogystal â chael llai o wastraff i gael gwared ohono.