Mae gan y diwydiant niwclear gyfrifoldeb i’r cyhoedd a chenedlaethau’r dyfodol i sicrhau fod gennym ddatrysiadau ar gyfer pob agwedd o asedau niwclear. Mae’r ffordd yr ydym yn delio â gwastraff yr un mor bwysig â gweithrediadau asedau niwclear.
Gall y LNC gynghori ar bob datrysiad rheoli gwastraff, gan ddarparu arbenigedd a gwerthusiad annibynnol. Gall ein gallu ymchwil gefnogi ein cwsmeriaid i addasu neu ddatblygu technegau a thechnoleg newydd er mwyn cyflawni datrysiad diogel, yn ymgylcheddol gyfrifol a chost-effeithiol. Yr ydym yn ymgymryd â phob agwedd o ddadansoddi gwastraff cemegol a ffisegol a chategoreiddio gwastraff a all gael ei ddefnyddio i ddatblygu technegau prosesu newydd ac i ddatblygu technolegau newydd.
Mae ein seiliau sgiliau technegol amrywiol yn tynnu ar gyfoeth o wybodaeth i ddarparu gwasanaethau craidd ym maes rheoli gwastraff.
- Technolegau Atal
- Datblygiad Cemegol a Phrosesau
- Ymddygiad Gwastraff a Defnyddiau
- Gwydreiddio
Yn ogystal, yr ydym yn gweithio ar wasanaethau arbennig i ddiwallu anghenion ein cwsmer ac yn aml yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu datrysiad mwy cynhwysfawr neu wedi ei brofi i’n cwsmeriaid; datblygu technoleg yn barod i’w ddefnyddio.
Mae ein cyfuniad unigryw o gyfleusterau, sgiliau a seiliau gwybodaeth hygyrch yn golygu y gallwn brosesu gwastraff a gwaddol penodol na ellir eu trin gan unrhyw gyfleuster arall.
Os oes gennych ddiddordeb darganfod beth y gallwn ei wneud i chi, cysylltwch os gwelwch yn dda. .