National Nuclear Laboratory

Ap Datganiad Preifatrwydd LNC

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol Cyfyngedig (y cyfeirir ato fel “LNC”, “ni” neu “ein” yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn) wedi ymrwymo i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Ni wnawn brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch ond yn unol ag egwyddorion diogelu data, sy’n cael ei egluro yn LNC-POLISI-23 – Polisi Diogelu Data LNC.

Beth yw pwrpas y ddogfen hon?

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch pan fyddwch chi’n defnyddio’r ‘NNL Comms App (“yr Ap”). Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ychwanegu at unrhyw hysbysiadau eraill (gan gynnwys IMS-GN-024 – Hysbysiad Preifatrwydd LNC ar gyfer Cyflogedigion, Gweithwyr a Chontractwyr) ac ni fwriedir iddo eu diystyru.

Gwybodaeth Bwysig

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd â thelerau defnyddio’r Ap (ar gael ar gais gan dîm LNC Cyfathrebu) ynghyd â “Telerau Defnyddio”) yn berthnasol i’ch defnydd o’r Ap sy’n cael ei gynnal ar yr Apple App Store a Google Play (“Safleoedd Dosbarthu Digidol ”), ar ôl i chi lawrlwytho copi o’r Ap i’ch ffôn symudol neu ddyfais law (“ Dyfais ”).

Dolenni cyswllt trydydd person

Gall cynnwys ap gynnwys dolenni cyswllt i wefannau trydydd person, ategion a chymwysiadau. Drwy glicio ar y dolenni cyswllt hyn neu ganiatáu cysylltiad mae’n bosibl eich bod yn caniatáu i drydydd person gasglu neu rannu eich data personol. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y gwefannau trydydd person hyn, ategion na chymwysiadau ac nid ydym yn gyfrifol am eu hysbysiadau preifatrwydd, felly fe ddylech ddarllen eu hysbysiadau preifatrwydd i ddeall pa ddata personol y maent yn ei gasglu amdanoch a sut y maent yn ei ddefnyddio.

Mae gennych hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (“ICO”) (www.ico.org.uk) neu lefelau gyfreithiol. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi fynd at yr ICO felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Caniatad i osod yr Ap

Mae’r Ap yn darparu newyddion am fusnes LNC, gwybodaeth am gyfleusterau LNC gan gynnwys oriau agor, gwybodaeth cyswllt, rhybuddion (megis mynediad at gyfleusterau) a gwybodaeth am y tywydd a chyfeiriadau (os ydych wedi galluogi prosesu Data Lleoliad ar eich Dyfais).

Cyn gosod yr Ap, nodwch eich caniatâd i ni brosesu eich data personol fel y disgrifir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

YDW rydw i’n cydsynio i osod yr Ap ar gyfer cael mynediad at wybodaeth am fusnes a chyfleusterau LNC a gwybodaeth tywydd a theithio (cyfeiriadau – lle yr wyf wedi caniatáu prosesu Data Lleoliad ar fy Nyfais).

NA nid wyf yn cydsynio i osod yr Ap.

Pa wybodaeth bersonol sydd gan LNC amdanoch chi?

Yn ogystal â’r data personol yr ydym yn ei gasglu amdanoch a ddisgrifir yn IMS-GN-024 – Hysbysiad Preifatrwydd LNC ar gyfer Cyflogedigion, Gweithwyr a Chontractwyr, gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo’r mathau o ddata personol amdanoch a restrir yn yr Atodlen mewn cysylltiad â’ch defnydd o’r Ap.

Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu

Yr ydym yn casglu data personol yn y ffyrdd a ganlyn:

Rhyngweithiad UniongyrcholGallwch ddarparu data personol pan ofynnwch am ddefnyddio’r Ap.
Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi a’ch dyfaisPob tro y byddwch chi’n ymweld â’n gwefan neu’n defnyddio’r Ap byddwn yn casglu data personol yn awtomatig gan gynnwys Dyfais a Data Lleoliad. Yr ydym yn casglu’r data hwn gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill. Os gwelwch yn dda edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd gwefan a’r polisi cwcis ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Data LleoliadMae’r nodwedd a weithredir ar gyfer lleoliad i ddarparu gwybodaeth tywydd a theithio (cyfeiriadau) angen data personol i’r nodwedd weithio. Os ydych yn dymuno defnyddio’r nodwedd hon, mi fyddwn yn gofyn eich caniatâd i’ch data gael ei ddefnyddio i’r pwrpas hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy analluogi Data Lleoliad yn eich cysodiadau Dyfais.

Sut y defnyddiwn eich data personol

Mi ddefnyddiwn eich data personol yn unig pan fo’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud. Yn fwyaf cyffredin byddwn yn defnyddio eich data personol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle yr ydych wedi cydsynio cyn y prosesu.
  • Lle mae angen i ni wneud cytundeb, yr ydym ar fin ymrwymo gyda chi neu wedi ymrwymo i chi
  • Lle mae’n angenrheidiol i’n buddiannau cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd person) ac nid yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn mynd y tu hwnt iddynt.
  • Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.

Mae Atodlen 1 yn nodi’r sail gyfreithlon y byddwn yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Prosesu trydydd person

Efallai y byddwn weithiau’n rhannu’ch data personol, i’r graddau y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, gyda thrydydd person dibynadwy fel cwmnïau TG sy’n cefnogi’r Ap a systemau busnes a phartneriaid cyflenwi eraill.

Mae angen i bob trydydd person barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith.

Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd person ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain. Ni allant ond prosesu eich data personol am resymau penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau ni.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”).

Diogelwch data

Yr ydym wedi gosod mesurau diogelwch priodol ar waith i sicrhau nad yw eich data personol yn cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu fynd ato heb ganiatâd, ei newid neu ei ddatgelu. Yr ydym hefyd yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd person eraill sydd ag angen busnes i wybod a dim ond ar ein cyfarwyddiadau y gallant brosesu eich data personol a byddant dan ddyletswydd cyfrinachedd.

Mae gennym weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o gamddefnydd o ddata personol a byddwn yn eich hysbysu ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Cadw data

Pryd bynnag y byddwn yn casglu neu’n prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben y cafodd ei gasglu y byddwn yn ei gadw. Ar ddiwedd y cyfnod cadw hwnnw, bydd eich data naill ai’n cael ei ddileu’n llwyr neu ei wneud yn ddienw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn hyn o beth, neu unrhyw bryderon ynghylch pa mor hir yr ydym yn cadw’ch gwybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.

Eich hawliau cyfreithiol

Mae gennych rai hawliau penodol mewn rhai amgylchiadau o dan y gyfraith diogelu data. Amlinellir y rhain yn yr Atodlen. Os ydych am arfer unrhyw un o’ch hawliau, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data os gwelwch yn dda.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Yr ydym yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg, a byddwn yn darparu rhybudd preifatrwydd newydd i chi pan fyddwn yn gwneud unrhyw ddiweddariadau sylweddol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig:

trwy e-bost: d.po@uknnl.com

trwy’r post:

Swyddog Diogelu Data, National Nuclear Laboratory Limited, Chadwick House, Warrington Road, Birchwood Park, Warrington WA3 6AE.

ATODLEN 1

Mathau o ddata personol

Mi allwn gasglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch:

Data DyfaisMae’r Ap yn integreiddio Google Analytics ar gyfer Monitro Perfformiad Firebase a Firebase sydd ill dau yn casglu gwybodaeth benodol yn eu gweithrediad diofyn (https://support.google.com/firebase/answer/6318039? hl = en & ref_topic = 6317497).
Data LleoliadMae’n cynnwys eich lleoliad a ddatgelir gan dechnoleg GPS neu dechnoleg lleoliad arall os ydych wedi galluogi’r nodwedd hon ar eich Dyfais.

Sail bwrpasol a chyfreithlon ar gyfer prosesu

Y pwrpas a’r sail gyfreithlon y gallwn ddibynnu arnynt i brosesu eich data personol yw:

Pwrpas / gweithgareddMath o ddataSail gyfreithlon ar gyfer prosesu
I osod yr Ap a’ch cofrestru fel defnyddiwr Ap newydd.Hunaniaeth Cyswllt DyfaisEich caniatâd.
I reoli ein perthynas â chi gan gynnwys eich hysbysu am newidiadau i’r Ap.Hunaniaeth CyswlltEich caniatâd. Yn ôl yr angen i’n buddiannau cyfreithlon (i ddiweddaru cofnodion ac i ddadansoddi sut mae’r Ap yn cael ei ddefnyddio). Yr angen i gydfynd ag ymrwymiad cyfreithiol (i’ch hysbysu o unrhyw newidiadau i’n Telerau Defnyddio).
I weinyddu a gwarchod ein busnes a’r Ap hwn gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data a phrofi systemHunaniaeth Cyswllt DyfaisYn ôl yr angen i’n buddiannau cyfreithlon (i redeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith).
I gyflwyno cynnwys i chi. Eich hysbysu am ein busnes a’n cyfleusterau a darparu rhybuddion. I fesur a dadansoddi effeithiolrwydd yr Ap. I fonitro tueddiadau fel y gallwn wella’r Ap.Hunaniaeth Cyswllt Lleoliad (os ydych chi wedi galluogi’r nodweddion gwybodaeth tywydd a theithio – cyfeiriadau)Caniatâd. Yn ôl yr angen i’n buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein llwyfan cyfathrebu gyda’n staff).

Eich hawliau cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i:

Ofyn am fynediad i’ch data personol (a elwir yn gyffredin yn “gais mynediad pwnc data”).Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.
Ofyn am gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch.Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu wallus sydd gennym amdanoch, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd yr ydych chi’n ei ddarparu i ni.
Ofyn am ddileu eich data personol.Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu data personol lle nad oes rheswm da i ni barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich data personol lle rydych chi wedi arfer eich hawl i wrthod ei brosesu (gweler isod), lle mae’n bosibl ein bod wedi prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae’n ofynnol i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau penodol gyfreithiol y byddwn yn rhoi gwybod i chi, os yw’n berthnasol, ar adeg eich cais.
Wrthwynebu prosesu eich data personolGallwch wrthwynebu i brosesu eich data personol lle yr ydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithlon (neu rai trydydd person) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hwn gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle yr ydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos fod gennym sail gyfreithiol cryf i brosesu eich gwybodaeth sy’n diystyru’ch hawliau a’ch rhyddid.
Ofyn am gyfyngu prosesu eich data personol.Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y senarios canlynol: os ydych chi eisiau i ni sefydlu cywirdeb y data; lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; lle mae angen i ni gadw’r data personol hyd yn oed os nad ydym ei angen mwyach gan fod ei angen arnoch chi i sefydlu, weithredu neu amddiffyn hawl cyfreithiol; neu os ydych wedi gwrthwynebu ein defnydd o’ch data personol ond mae angen i ni weld a yw’n gywir a bod gennym sail cyfreithlon cryf i’w ddefnyddio.
Ofyn am drosglwyddo’ch data personol i chi neu i drydydd person.Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd person o’ch dewis chi, eich data personol mewn ffurf strwythuredig, a ddefnyddir yn aml, ac y gellir ei ddarllen â pheiriant. Sylwch fod yr hawl hwn ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y gwnaethoch roi caniatâd i ni ei ddefnyddio neu lle gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth i greu cytundeb gyda chi.
Dynnu caniatâd yn ôlGallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle yr ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu’ch caniatâd yn ôl. Os yr ydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu’r Ap neu nodweddion arbennig i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.