National Nuclear Laboratory

Lles: Hunangymorth

Beth allaf ei wneud i gynorthwyo fy hun yn ystod y cyfnod hwn?

Gall y pandemig COVID-19 wneud i ni deimlo ein bod wedi ein llethu o ganlyniad i’r holl wybodaeth newydd y mae’n rhaid i ni ei gofio, dulliau newydd o weithio, a gofalu am deulu a ni ein hunan. Mae’n bwysig oedi am eiliad a chasglu’n meddyliau, oherwydd gall pandemig byd eang fod yn heriol iawn.

Mae’n arferol i deimlo dan bwysau neu wedi eich gorlethu yn ystod cyfnodau ansicr. Emosiynau sy’n codi mewn canlyniad i ansicrwydd yw pryder, ofn, dicter a thristwch. Gallech hefyd deimlo’n ddiymadferth, yn siomedig ac o bryd i’w gilydd, allan o reolaeth.

Mae gofalu amdanoch chi eich hun yn bwysig fel eich bod yn gallu cynorthwyo eich teulu drwy’r cyfnod hwn. Dyma eich atgoffa o rai pethau y gallwch eu gwneud i edrych ar ôl eich hun:

Iechyd Corfforol

  • Cyflenwch eich corff trwy fwyta deiet iach, cytbwys ac yfed digon o ddŵr
  • Ceisiwch gael saith i wyth awr o gwsg bob nos
  • Cymerwch seibiadau rheolaidd o’ch man gwaith adref, ystwythwch yn aml
  • Ceisiwch wneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd
  • Ceisiwch osgoi ymddygiad andwyol neu ddinistriol, fel alcohol neu gyffuriau, hapchwarae gormodol neu anwybyddu argymhellion iechyd cyhoeddus
  • Treuliwch amser y tu allan, fel mynd am dro, ond dilynwch ganllawiau pellhau cymdeithasol

Iechyd meddwl

  • Gosodwch a chynhaliwch drefn arferol adre
  • Canolbwyntiwch ar bethau y gallwch eu rheoli
  • Defnyddiwch dechnoleg i gynnal cysylltiadau cymdeithasol gyda’ch anwyliaid. Ystyriwch amserlen reolaidd i roi rhywbeth i chi edrych ymlaen ato
  • Canolbwyntiwch eich meddyliau ar y presennol a phethau i fod yn ddiolchgar amdanynt heddiw
  • Defnyddiwch ffynonellau newyddion dibynadwy sy’n cofnodi ffeithiau ac yn cyfyngu ar faint sy’n cael ei ddatgelu neu cymrwch hoe o’r newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol os gwelwch ei fod yn eich gwneud yn bryderus.
  • Cwblhewch y Sialens Iechyd Meddwl 30 Diwrnod LNC

Pa gefnogaeth arall y gallaf ei gael?

Mae Rhaglen Cymorth Gweithwyr LNC (EAP) a ddarperir gan LifeWorks, i chi a’ch teulu gael mynediad iddi. Gallwch ddarganfod mwy ar ‘Nucleas’.