National Nuclear Laboratory

Mae’n wirioneddol dda siarad

Mae teimlo wedi gorlwytho yn rhan naturiol o fywyd. Weithiau gall cyfrifoldebau, disgwyliadau a diffyg amser wneud i sefyllfa deimlo’n anodd i’w thrin. Mae cael rhywun i siarad â nhw, sy’n gallu gwrando heb roi barn, a, lle bo hynny’n briodol, gynnig arweiniad, yn rhan bwysig o drin pwysau.

I’ch cynorthwyo mae gennym ni nifer o Wrandawyr yn y Gweithle

Grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, wedi eu hyfforddi y gallwch siarad â hwy’n gyfrinachol am unrhyw agweddau y gallech fod yn ei ddioddef. Maent wedi cael eu hyfforddi i wrando heb farnu, i roi tawelwch meddwl ac arweiniad tuag at gefnogaeth briodol. Nid ydynt yno i adrodd yn ôl i LNC.

Mae gennym wrandawyr ym mhob un o’n safleoedd. Maent yn barod i gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un a allai fod yn teimlo anhawster emosiynol neu sy’n poeni am eu lles meddyliol.

Esboniodd Lucy Platts, ein Gwrandäwr Gweithle yn Stonehouse, pam y gwnaeth hi ddod yn gysylltiedig a pham ei fod yn bwysig iddi:

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd meddwl ac angen siarad, cysylltwch ag un o’r tîm dros y ffôn neu e-bost os gwelwch yn dda. Nid yw’n gorfod bod yn rhywun sydd wedi’i leoli ar eich safle. Gellir gweld rhestr lawn o enwau gan ddefnyddio’r ddolen ar y chwith.

Am fwy o wybodaeth, mewngofnodwch i’r rhwydwaith LNC ac ymwelwch â’r dudalen ganlynol ar ‘Nucleus’:

https://nucleus.nnl.co.uk/News/Pages/It-Really-is-Good-to-Talk.aspx os gwelwch yn dda (nodwch na fydd y ddolen hon yn gweithio oni bai eich bod wedi mewngofnodi i rwydwaith LNC)