National Nuclear Laboratory

Coronafeirws

Bwriedir y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn bennaf ar gyfer gweithwyr LNC. Nid oes unrhyw ran o’r wybodaeth wedi ei nodi’n amddiffynnol. Ar y cyfan mae’r manylion yn atgynhyrchiad o’r hyn a welir ar ‘Nucleus’, wedi’i osod yma rhag ofn y gallai fod problemau mynediad ar ein rhwydwaith. Mae’r wefan yn cael ei chynnal ar wahân i brif rwydwaith LNC.

COVID-19

Fel yr ydym yn parhau i addasu i’r heriau a ddaw yn sgil COVID-19, yr ydym yn cydnabod y gall cydweithwyr fod eisiau cael mynediad i wybodaeth gyfredol a gwybodaeth wedi’i rhyddhau yn barod mewn man canolog.

Mae eich tîm cyfathrebu wedi creu’r maes gwybodaeth hwn i ddod â LNC a gwybodaeth swyddogol ynghyd i’w gwneud hi’n haws i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Os teimlwch fod unrhyw beth arall y dylsem ei gynnwys, e-bostiwch engagement@uknnl.com os gwelwch yn dda