Thursday 25 February 2021
LNC yn Olygydd Gwadd Cylchlythyr Rhyngwladol
Mae Fforwm Rhyngwladol Cenhedlaeth IV (GIF) wedi cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o’i gylchlythyr misol sy’n cynnwys cyfraniadau sylweddol gan staff LNC.
Gyda’n Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dr Fiona Rayment yn olygydd gwadd, mae’r cylchlythyr rhyngwladol yn cynnwys cyfraniadau arbennig gan dri gwyddonydd LNC arall: Dr Nicholas Barron, Arweinydd Technegol ar gyfer Tanwydd Adweithyddion Cyflym, Caroline Longman, Cyfarwyddwr Cyfrif Llywodraeth y DU, a Dr Dave Goddard, Cymrawd mewn Gweithgynhyrchu Tanwydd.
Wedi’i greu yn 2001, mae’r Fforwm Rhyngwladol Cenhedlaeth IV yn dwyn ynghyd 13 gwlad i gydlynu ymchwil a datblygu systemau niwclear datblygedig y bedwaredd genhedlaeth. I sicrhau y gall aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y fforwm, ac am unrhyw ddatblygiadau hynod yn y maes, cyhoeddir cylchlythyr digidol misol er budd y rhai sy’n ymwneud â’r sector neu sydd â diddordeb ynddo.
Yn rhifyn y mis hwn, mae erthyglau yn trafod y rôl y gall ac y dylai niwclear datblygedig ei chwarae yn y Papur Gwyn Ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth ac yn economi Hydrogen y DU.
Dywedodd Dr Fiona Rayment, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg y LNC:
“Yr oedd yn fraint derbyn y gwahoddiad i fod yn olygydd gwadd cylchlythyr y Fforwm Rhyngwladol Cenhedlaeth IV y mis hwn. Dwi’n gobeithio fod y rhifyn yn rhoi mwy o fewnwelediad i ddarllenwyr o’r sgyrsiau sydd i’w cael ynghylch niwclear yn y DU a sut rydyn ni’n gweithio tuag at chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae hwn yn sicr yn amser allweddol ar gyfer datblygu ynni niwclear ledled y byd ac rwy’n falch o gyfrannu at waith y Fforwm wrth sicrhau y gall technoleg niwclear ddatblygedig gynorthwyo i gyflawni ein hymrwymiadau sero net.”