National Nuclear Laboratory

News

NNL a Phrifysgol Bangor yn cydweithio’n strategol i hyrwyddo gwyddoniaeth niwclear ymhellach

O’r chwith, Is-Ganghellor newydd ei phenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Edmund Burke, yr Is-Ganghellor presennol yr Athro Iwan Davies, Dr Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol y Labordy Niwclear Cenedlaethol a Dr Fiona Rayment OBE, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNL)

Llofnododd Labordy Niwclear Cenedlaethol (NNL), labordy cenedlaethol y DU ar gyfer holltiad niwclear a Phrifysgol Bangor Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar 29 Gorffennaf 2022 a fydd yn golygu eu bod yn cydweithio i ddatblygu addysg ac ymchwil ym maes ynni niwclear, gan gynnwys sgiliau a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant niwclear. Byddant hefyd yn gweithio ar brojectau ymchwil ar y cyd ac yn rhannu mynediad at isadeiledd, cyfleusterau ac offer a fydd yn datblygu technolegau niwclear.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae buddsoddiad y Labordy Niwclear Cenedlaethol yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol gyda chyfres o bartneriaethau gyda busnesau a sefydliadau addysgol Cymreig, gan gynnwys Prifysgol Bangor. Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ymrwymiad y Labordy Niwclear Cenedlaethol i hybu arloesedd, buddsoddiad a chyflogi gweithlu medrus yng Nghymru – un a fydd yn gwneud cymaint dros gyfraniad y DU at net sero.

Mae cyflwyno swyddfa newydd i’r Labordy Niwclear Cenedlaethol ar Ynys Môn ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) y llynedd wedi darparu canolfan leol newydd i’r Labordy Niwclear Cenedlaethol fwrw ymlaen â’i uchelgais yng Nghymru, a bydd yn helpu i adeiladu’r hanes cryf sydd yn Nghymru o ran technoleg niwclear.

Wrth siarad ar adeg llofnodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, dywedodd Dr Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol y Labordy Niwclear Cenedlaethol: “Wrth inni geisio sicrhau dyfodol ynni glân i’r DU drwy dechnolegau niwclear mwy newydd a datblygedig, rydym yn cydnabod effaith a gwerth Cymru fel canolfan wyddoniaeth ac arloesi niwclear. Mae datblygiad y berthynas sydd gennym ni ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Bangor, a ffurfiolwyd drwy’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd, yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu’r ymchwil, y sgiliau a’r galluoedd y bydd eu hangen yma ac ar draws y DU. 

“Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i ehangu a chryfhau ein gallu ar y cyd mewn hydroleg thermol niwclear, tanwyddau newydd ac arloesol, systemau ynni niwclear a chydgynhyrchu. Bydd i’r gwaith hwn ran bwysig yng ngallu’r DU i ddatblygu’r gyfres nesaf o dechnolegau niwclear carbon isel, yn ogystal â chefnogi datblygiadau eraill er budd y cyhoedd megis iechyd trawsnewidiol a meddygaeth niwclear. Trwy fanteisio ar gyfleusterau a galluoedd o fri y Labordy Niwclear Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor, byddwn nid yn unig yn cryfhau ac yn cynnal yr arbenigedd sydd gennym ni eisoes yn y sector niwclear ond hefyd yn sicrhau bod gennym ni’r bobl a’r sgiliau ar gyfer dyfodol clir newydd y DU.”

Cynrychiolwyr o NNL yn M-SParc (Parc Gwyddoniaeth Menai)

Ychwanegodd yr Athro Bill Lee, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear, “Mae’r Sefydliad Dyfodol Niwclear eisoes yn cydweithio â’r Labordy Niwclear Cenedlaethol ar waith ymchwil i hydroleg thermol – plymio adweithyddion – a thanwydd niwclear sy’n gallu gwrthsefyll damweiniau. Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn ein galluogi i ehangu i feysydd fel meddygaeth niwclear, cyfanrwydd adeileddol, rheolaeth ac offeryniaeth a chydgynhyrchu hydrogen a thanwydd jet o drydan a gynhyrchir gan niwclear. Ymhellach, bydd cefnogaeth y Labordy Niwclear Cenedlaethol i raglen israddedig Peirianneg Gyffredinol newydd Prifysgol Bangor sy’n recriwtio ar gyfer 2023 yn helpu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o beirianwyr i fod yn sylfaen i’r holl dechnolegau carbon isel yng ngogledd Cymru.

“Dim ond trwy ddefnyddio safleoedd trwyddedig niwclear allweddol fel Wylfa a Thrawsfynydd y gwireddir gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ynni sicr ac allyriadau carbon Sero Net erbyn 2050. Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn cefnogi cynlluniau i Gymru ddefnyddio’r safleoedd hyn ar gyfer dyfodol ynni glân y DU.”

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, “Mae ein cysylltiadau cynyddol â Labordy Niwclear Cenedlaethol yn cyd-fynd yn dda â’n gweledigaeth i Brifysgol Bangor fod ar flaen y gad ym maes cynhyrchu ynni carbon isel. Mae gan y rhanbarth eisoes brojectau helaeth ar y gweill ar gyfer cynhyrchu ynni llanw morol, ynni gwynt ar y môr, solar, a chynhyrchu hydrogen a chaiff ein cynlluniau ar gyfer Egni – Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel a ariennir drwy Fargen Twf Gogledd Cymru eu cryfhau drwy gydweithio ag arweinwyr ym maes technoleg niwclear megis y Labordy Niwclear Cenedlaethol.”

Dywedodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn: “Rwyf wrth fy modd bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn wedi’i lofnodi rhwng Prifysgol Bangor a’r Labordy Niwclear Cenedlaethol. Mae gan ein rhanbarth dreftadaeth niwclear gref a bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth niwclear. Bydd gwaith o’r fath yn helpu i ddatblygu gwyddoniaeth feddygol ac yn cyfrannu at y ras i net sero trwy gefnogi prosiectau fel gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o Senedd Cymru dros Ynys Môn, “Mae ymchwil mewn i dechnolegau newydd i gynhyrchu ynni o bob math yn hanfodol wrth i ni gynllunio am ddyfodol di-garbon, ac mae’n bwysig ein bod ni yn gallu elwa o’r gwaith ymchwil hwnnw yn lleol. Drwy’r cytundeb hwn, mae Prifysgol Bangor yn parhau i fynnu chwarae rhan flaenllaw yn hynny.”