National Nuclear Laboratory

News

Wednesday 14 July 2021

Adroddiad Newydd Yn Cyhoeddi Cynllun Traws-Sector ar gyfer Hydrogen Sero-Carbon yn deillio o Niwclear

Wedi’i lansio gan y Grŵp Arloesi’r Fargen Sector Niwclear, mae’r adroddiad yn gosod allan yr hyn sydd angen ei wneud i wireddu’r cyfle i ddatgloi sero-net drwy ddefnydd o hydrogen sy’n deillio o niwclear.
Mae ei ganfyddiadau yn dilyn achlysur arwyddocaol sef Hydrogen Niwclear y Fordgron a ddaeth â dros 80 o arbenigwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd o bob rhan o’r gadwyn gwerth hydrogen.

Heddiw, lansiwyd adroddiad newydd gan y Grŵp Arloesi’r Fargen Sector Niwclear, yn amlinellu cyfres o argymhellion brys a phwysig ar gyfer gwireddu’r cyfle am hydrogen sero-carbon yn deillio o niwclear.

Cynllun gweithredu traws-sector yw’r adroddiad, ‘Datgloi Economi Hydrogen Niwclear y DU i Gefnogi Sero-Net’, i’w ystyried gan Gyngor y Diwydiant Niwclear. Mae ei ganfyddiadau yn dilyn achlysur arwyddocaol sef Hydrogen Niwclear y Fordgron ym mis Mai 2021, a ddaeth â dros 80 o arbenigwyr ac arweinwyr diwydiant ynghyd o bob rhan o’r gadwyn gwerth hydrogen.

Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad gan ddefnyddio’r ddolen hon.

Wedi’i amseru i gynnig y gwerth uchaf o flaen Strategaeth Hydrogen disgwyliedig Llywodraeth y DU, mae’r adroddiad yn pwysleisio maint yr her sydd o’n blaenau ar gyfer datgarboneiddio dwfn ac eto anferthedd yr hyn y gallai hydrogen sy’n deillio o niwclear ei gyflawni. Mae’n gosod allan deg cam gweithredu ar gyfer diwydiant a deg ymrwymiad i’r llywodraeth a fydd, o’u cymryd yn awr, yn cynorthwyo’r DU i sicrhau allyriadau sero- net carbon ar amser ac o fewn y gyllideb.

Mewn rhagarweiniad i’r adroddiad, mae Dr Fiona Rayment, Cadeirydd y Grŵp Arloesi, yn crynhoi canfyddiadau allweddol Hydrogen Niwclear y Fordgron fel a ganlyn:

  1. Gall hydrogen sy’n deillio o niwclear fod yn ddull isel o ran risg o gynhyrchu hydrogen, heddiw ac i’r dyfodol.
  2. Drwy ddull traws-sector, gallai swm sylweddol o hydrogen sy’n deillio o niwclear gael ei gynhyrchu ar raddfa i gefnogi’n llawn y trawsnewid ynni heriol hwn.
  3. Bydd cymhwyso achos defnydd cyntaf yn awr yn cyfrannu tuag at gyrraedd anghenion polisi heddiw ac yn arddangos yr holl gadwyn gwerth o’i gynhyrchu i’w ddefnyddio.

Mae’r cynllun gweithredu yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflawni hyn drwy ystyriaeth o’r ysgogwyr economaidd, technegol, rheoliadol, polisi ac ariannol angenrheidiol. Byddai ei ddarparu’n llwyddiannus yn golygu nid yn unig gwneud y mwyaf o dechnoleg sydd eisoes wedi’i fasnachu, ac yn abl o gael ei defnyddio yn awr, ond hefyd yn sbarduno arloesedd mewn technolegau sy’n cynnig effeithlonrwydd pellach a gwerth am arian.

Yn disgrifio arwyddocâd amseriad yr adroddiad, a’r cyfle i’r DU ddod yn arweinydd byd-eang mewn hydrogen sero-carbon yn deillio o niwclear, dywedodd Dr Fiona Rayment:

“Gyda degawdau o brofiad niwclear, mae’r DU yn pwyso ar gyfoeth o sgiliau, talent a gallu a all ddarparu hydrogen sy’n deillio o niwclear ar raddfa. Gall y gallu hwn greu economi gynta’r byd o hydrogen yn deillio o niwclear, gan ddarparu sero-net am gost is i ddefnyddwyr. Gallai’r DU sbarduno marchnad nwyddau fyd-eang ar gyfer hydrogen yn y dyfodol, gan gynyddu allforion sgiliau a thechnoleg arloesol.

“Rwy’n mawr obeithio ac yn disgwyl, o ystyried ei amrediad a’i amseriad, y bydd y ddogfen hon yn cael ei gweld fel trobwynt i rôl niwclear yn economi hydrogen y dyfodol ac yn alwad i weithredu i’r sector achub ar y cyfle un tro a gwneud y gorau ohono. Dyma gyfle y gellir ei wireddu ond trwy wir gydweithrediad traws-sector.”

Wrth sôn am lansiad yr adroddiad, ychwanegodd Tom Greatrex, Prif Weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear:

“Dylai pŵer niwclear fod wrth wraidd cynhyrchu hydrogen sero-carbon, ochr yn ochr â thechnoleg adnewyddadwy. Mae adweithyddion niwclear, mawr a bach, yn cynnig y datrysiadau arloesol sydd eu hangen arnom i ddatgarboneiddio sectorau y tu hwnt i drydan fel rhan o gymysgedd sero-net gadarn, gan ddechrau heddiw ac i’r dyfodol. Mae’r llywodraeth eisoes wedi cydnabod y potensial hwnnw, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda nhw a phartneriaid eraill i greu fframwaith gref ar gyfer economi hydrogen sy’n deillio o niwclear. Mae’n gyfle na ellir ei golli.”

Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho copi o’r adroddiad.