National Nuclear Laboratory

News

Thursday 29 July 2021

Ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth ar raglen arddangos Adweithydd Modwlaidd Datblygedig (AMR)

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth heddiw fod cynlluniau wedi symud gam yn nes i gael y dechnoleg niwclear ddiweddaraf ar waith o fewn y ddegawd nesaf, dywedodd Dr Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol y Labordy Niwclear Cenedlaethol:

“Gyda’r Galwad am Dystiolaeth a gyhoeddwyd heddiw ar y rhaglen arddangos Adweithydd Modwlaidd Ddatblygedig (AMR), y mae’r llywodraeth unwaith eto yn datgan ei gefnogaeth i niwclear fel rhan o gyfuniad o ynni glân, diogel a fforddiadwy y dyfodol. Yr ydym yn cefnogi a phledio achos y weledigaeth yma yn llwyr, ac yn cydnabod yr angen am dechnolegau adweithyddion ar raddfa fawr, Modwlaidd Bach a Modwlaidd Datblygedig. Mae ffocysu ar ddefnyddio rhaglen arddangos yn newyddion sy’n cael ei groesawu, ac yn hyrwyddo cefndir niwclear cyfoethog y DU i’n cynorthwyo i gyflawni ein hamcanion sero-net.

“Gyda dros 50 mlynedd o brofiad o weithredu’r unig gyfres o adweithyddion nwy-oeredig masnachol yn y byd, yn ogystal ag adweithyddion cyflym sodiwm, dŵr trwm a gynhyrchwyd gan stêm, a dŵr ysgafn mae’r DU yn ymffrostio yn y sgiliau, y dalent a’r gallu i ddarparu technolegau niwclear datblygedig a’r gadwyn gyflenwi gyfan sy’n eu galluogi. Wrth wneud hyn, mae gennym y gallu i gefnogi economi hydrogen niwclear sy’n arwain y byd – gan sbarduno twf a swyddi gwyrdd sy’n gofyn gallu uchel ar draws y DU.

“Yn cynnal datblygiad o’r technolegau hyn, fodd bynnag, mae buddsoddiad parhaus mewn sgiliau arbenigol a medrusrwydd, a dyna pam yr ydym yn temlo’n gyffrous ein bod yn cynnal y peilot newydd ar gyfer y Campws Sgiliau Niwclear Datblygedig ac Arloesi ym Mhreston. Wedi’i leoli yn un o’n labordai blaengar presennol ar safle Springfields, bydd y campws peilot newydd hwn yn ganolbwynt ar gyfer cydweithredu rhwng diwydiant ac academia ac yn cynorthwyo i ddatgloi datblygiadau gwyddonol hanfodol bwysig.

“Yr ydym hefyd yn croesawu parhad cyllid ar gyfer y Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig (AFCP), yr ydym wedi bod yn ei harwain ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), gan adeiladu ar y cyflawniadau arbennig a ddarparwyd gan y rhaglen hyd yn hyn. Mae’r gwaith hwn eisoes yn esiampl ardderchog o werth partneriaethau ar draws y sector niwclear, wrth ehangu galluoedd y DU i fod ar y blaen yn fyd-eang ym maes technoleg niwclear datblygedig.”

Gellir gweld cyhoeddiad y Llywodraeth yma: https://bit.ly/AMRDemo