National Nuclear Laboratory

News

Tuesday 15 June 2021

LNC Yn Cyhoeddi Penodiad Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Newydd

Mae’n bleser gan LNC gyhoeddi penodiad Dr Paul Nevitt fel ein Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd.

Daw penodiad Paul ar adeg cyffrous i LNC, yn dilyn lansio ein Cynllun Strategol newydd: Dyma LNC. Wrth wraidd hyn mae Agenda Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd sbon – wedi’i gynllunio i sicrhau fod gan y DU yr hyn sydd ei angen i gynnal technolegau niwclear cyfredol a newydd i ysgogi arloesi parhaus – gyda buddsoddiad blynyddol yn uwch nag erioed o’r blaen.

Fel Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bydd Paul yn dod â chyfoeth sylweddol o wybodaeth wedi ei feithrin ar draws LNC, yn fwyaf diweddar gyda’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig (AFCP), a thrwy rolau blaenorol gan gynnwys o fewn Swyddfa Ymchwil Arloesi Niwclear (NIRO). Bydd ef yn arwain ar bedair elfen yr Agenda newydd – Gwyddoniaeth Graidd, Ymchwil Strategol, Arloesi a Chydweithredu – wedi’i gefnogi gan dîm craidd a rhithiol hynod brofiadol.

Wrth ymgymryd â’r swydd newydd ar y 1af o Awst 2021, bydd Paul hefyd yn ymgymryd â nifer o rolau allweddol gan gynnwys Cadeirydd y Bwrdd Gwyddoniaeth a Thechnoleg, aelod o’r BPLT ac yn mynychu’r Bwrdd Cynghori Technoleg y LNC.

Daw ei benodiad wrth i’r Cyfarwyddwr blaenorol Dr Gareth Headdock ymgymryd â rôl Is-lywydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Thechnolegau Niwclear Datblygedig yn LNC. Bydd Gareth a Paul fel ei gilydd yn parhau i weithio’n agos yn eu rolau newydd.

Wrth groesawu’r penodiad ar y cyd, dywedodd Dr Fiona Rayment, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg (CSTO), a James Murphy, Prif Swyddog Strategaeth (CSO):

“Yr ydym wrth ein bodd y bydd Paul yn ymgymryd â’i rôl fel Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg LNC. Nid yn unig y mae’n gydweithiwr ardderchog sydd â phrofiad a mewnwelediad helaeth, ond y mae ei uchelgais a’i gymhelliad yn cwmpasu beth y gobeithiwn ei gyflawni drwy ein bwriad o wyddoniaeth niwclear er budd cymdeithas.

“Mae buddsoddi mewn ymchwil wyddonol a rhyddhau arloesedd yn sylfaenol i’n gwaith fel labordy cenedlaethol; gan ganiatáu i ni wasanaethu ein cwsmeriaid, ein partneriaid a’n cenedl yn well. Gydag Agenda newydd a mwy o fuddsoddiad nag y bwriadwyd, yr ydym yn hyderus y bydd LNC, o dan stiwardiaeth Paul, yn parhau i sicrhau canlyniadau gwirioneddol arloesol tuag at heriau mawr ein byd heddiw.

“Hoffwn ddiolch i Gareth am ei gyfraniadau sylweddol fel y cyn-Gyfarwyddwr – sy’n cynnwys llwyddiannau wrth ysgogi’r rhaglen wyddoniaeth graidd ac integreiddio â’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig ac yr ydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef a Paul yn eu rolau newydd.”