National Nuclear Laboratory

News

Thursday 24 June 2021

Cyflenwi Sero-Net: y LNC yn Cyhoeddi Mapiau Ffyrdd y Cylchred Tanwydd Datblygedig ar gyfer Dyfodol Ynni Glân

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol wedi cyhoeddi cyfres o fapiau ffyrdd a fydd yn galluogi llunwyr polisi’r DU a diwydiant i gynllunio ar gyfer dyfodol niwclear wrth gyflenwi allyriadau nwyon tŷ gwydr sero- net erbyn 2050.

Datblygwyd y mapiau ffyrdd drwy’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig (AFCP) a arweinir gan LNC mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae’r adroddiad newydd yn gosod llwybr i adeiladu ar sylfeini’r rhaglen, gan nodi cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth y DU mewn ymchwil, datblygu ac arddangos cylchred tanwydd.

Ers ei sefydlu yn 2019 fel rhan o Raglen Arloesi Ynni yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) gwerth £505m, mae’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig wedi dwyn ynghyd arbenigwyr byd-enwog o LNC, diwydiant ac academia i archwilio tanwydd niwclear datblygedig a’r cylchred tanwydd sydd eu hangen ar gyfer dyfodol sero-net. Drwy fapio technolegol, mae’r adroddiad hwn yn rhoi mewnwelediadau newydd ar lle y gall buddsoddiad y DU ymdrin â chyfres o anghenion cymdeithasol y dyfodol yn rhagweithiol.

Mae’r mapiau ffyrdd yn adnabod cyfleoedd i feysydd technoleg aeddfed allweddol, gan alluogi’r DU yn y pen draw i ddefnyddio cylchredau tanwydd cynaliadwy, gwireddu buddion economaidd sylweddol a chyflawni a chynnal sero-net.

Yn seiliedig ar fodelu arloesol LNC a gynhaliwyd gan “Energy Systems Catapult a LucidCatalyst” – a archwiliodd y cymwysiadau amrywiol, graddadwy ac o gost isel ar gyfer niwclear wrth ddarparu nid yn unig trydan ond hefyd gwres, hydrogen a thanwydd synthetig – gosododd y mapiau ffyrdd ddau brif faes o ran cyfleoedd y byddai angen i’r DU esblygu i gyflawni ei huchelgeisiau ynni glân. Y rhain yw:

  • Datblygu Tanwydd Datblygedig: creu tanwydd ar gyfer adweithyddion cyfredol a’r rhai i’r dyfodol, sy’n caniatáu cynnal a datblygu gallu gweithgynhyrchu tanwydd cynhenid ​​y DU ac yn sicrhau fod tanwydd y dyfodol ar gael i gynnal uchelgeisiau niwclear y DU;
  • Technolegau Cylchred Tanwydd Datblygedig: gwneud tanwydd y dyfodol drwy ailgylchu tanwydd a ddefnyddiwyd, sy’n darparu cyfleoedd sylweddol i leihau costau cylchred tanwydd, gwastraff ac effeithiau amgylcheddol yn ogystal â gwella diogelwch a gwrthsefyll amlhau.

Mae’r ddau faes hyn yn ffurfio cyfres o fapiau ffyrdd technolegol, gyda’r galluogwyr allweddol i’r naill a’r llall wedi’u gosod allan yn fanwl. Mae’r adroddiad yn amlygu cynllunio strategol, cydweithredu â’r diwydiant a chefnogaeth y llywodraeth ym meysydd polisi, isadeiledd ac yn ryngwladol.

Dywedodd Gareth Headdock, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Llywodraeth yn LNC:

“Yn barod, niwclear yw’r ffynhonnell fwyaf a mwyaf dibynadwy o ynni sero-carbon y DU ac mae gan dechnolegau mwy datblygedig hyd yn oed fwy o botensial i gynhyrchu hydrogen glân, gwres a thrydan.

“Bydd y mapiau ffyrdd newydd yn caniatáu i’r llywodraeth a’r diwydiant i gynllunio’n strategol ar gyfer sut y gallwn elwa ar allu presennol y DU sydd ar reng flaen o ran arloesi cylchred tanwydd datblygedig i ddarparu’r rôl allweddol a nodwyd ar gyfer niwclear yn y Papur Gwyn Ynni a’r Cynllun Deg Pwynt ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd.

“Drwy gymryd agwedd strategol tuag at y cylchred tanwydd, bydd y DU yn sicrhau y gall gyflawni’r uchelgeisiau niwclear a glustnodwyd yng nghynlluniau’r llywodraeth. Bydd y llwybrau a ddisgrifir yn y mapiau ffyrdd yn cefnogi datblygiad a llwyddiant y dull hwn sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.”

Lawrlwythwch yr adroddiad ar wefan AFCP.