National Nuclear Laboratory

News

Monday 5 July 2021

Ein Agenda Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Rhyddhau Arloesedd a Chwrdd â Thargedau Newid Hinsawdd y DU

Yn dilyn lansiad diweddar o Gynllun Strategol yr LNC, yr ydym yn falch o rannu ein cyhoeddiad yr Agenda Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd, sy’n gosod ein nodau a’n huchelgeisiau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae buddsoddi mewn ymchwil wyddonol a rhyddhau arloesedd yn sylfaenol i’n gwaith fel labordy cenedlaethol; gan ganiatáu i ni wasanaethu ein cwsmeriaid, ein partneriaid a’n cenedl yn well. Mae gwyddoniaeth a thechnoleg wrth wraidd y LNC ac yn ganolog i sicrhau ein bwriad o wyddoniaeth niwclear er budd cymdeithas.

Mae Agenda Gwyddoniaeth a Thechnoleg (S&T) yn cael ei ddiffinio gan dri philer allweddol – Gwyddoniaeth Graidd, Arloesi ac Ymchwil Strategol – y cyfan wedi eu cynnal gan Gydweithrediad; yn creu portffolio cytbwys sy’n sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag anghenion cyfredol yn ogystal ag anghenion y dyfodol. Trwyddo, fe fyddwn yn datblygu arweinyddiaeth ymenyddol, yn darparu partneriaethau llwyddiannus, yn meithrin sgiliau a thalent niwclear, ac yn galluogi darpariaeth ohono ac arloesi o fewn ein rhaglenni cwsmer presennol.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad ymdrechion ar y cyd o bob rhan o’n cymuned wyddonol a thechnolegol, yn ogystal â’n partneriaid ar draws y sector niwclear. Y mae’n arddangos y camau cynhyrfus yr ydym yn eu cymryd yn awr ac y byddwn ni’n parhau i’w cymryd, i gynorthwyo i ail-leoli’r DU fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil a thechnoleg niwclear a sefydlu ei lle yn gadarn fel archbŵer gwyddonol.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y cyhoeddiad ac yn rhannu yn ein cynnwrf am ei botensial i ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid a’n partneriaid, yn y DU ac yn fyd-eang.

Gallwch weld yr Agenda S&T yma: www.nnl.co.uk/SandTAgenda/