National Nuclear Laboratory

News

Thursday 17 June 2021

LNC yn Dadorchuddio Niwclear Trawsffurfiol ar gyfer Modelu Sero-Net

Mae LNC wedi cyhoeddi adroddiad modelu newydd arloesol sy’n arddangos y rôl y gall niwclear ei chwarae wrth ddarparu amcanion sero-net y DU.

Dyma’r tro cyntaf i gymwysiadau mor amrywiol, graddadwy ac isel ei gost ar gyfer technolegau niwclear gael eu cynrychioli’n llawn ar draws y system ynni gyfan. Drwy gynnwys ystod mor eang o gymwysiadau ar gyfer technoleg niwclear o fewn y model – sydd ynddo’i hun yn arloesol trwy asesu’r system ynni gyfan, nid y sector pŵer yn unig – mae’r gwaith hwn yn datgelu llwybrau posibl i ddad-beryglu a gostwng y gost o gyflawni sero -net.

Mae’r modelu, a gynhaliwyd gydag arbenigwyr annibynnol o “Energy Systems Catapult a LucidCatalyst”, yn ymdrin â’r holl system ynni ar y ffordd i sero-net. Mae hyn yn cynnwys rôl niwclear wrth ddarparu nid yn unig trydan ond gwres, hydrogen a thanwydd synthetig hefyd. Cwblhawyd y gwaith hwn trwy’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig (AFCP) gwerth £46m, a arweinir gan LNC mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) fel rhan o’r Rhaglen Arloesi Ynni gwerth £505m.

Drwy ychwanegu i’r set ddata genedlaethol a rhyngwladol sy’n ystyried ffyrdd i ddatgarboneiddio, mae’r modelu hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i’r llywodraeth a diwydiant i gefnogi eu penderfyniadau. Fe’i defnyddiwyd eisoes i gynnal map ffordd sero-net y Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Dr Fiona Rayment, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg LNC:

“I ganiatáu datgarboneiddio dwfn sydd ei angen i gwrdd â sero-net, mae’n amlwg bod angen i ni drawsffurfio yn ei gyfanrwydd ein system ynni yn llwyr. Nid yw’r her y mae’n rhaid i’n sector ei oresgyn yn dechnegol, ond yn economaidd; drwy gyd-gynhyrchu trydan sero-carbon gyda chyflenwad newydd o hydrogen, tanwydd a gwres gwyrdd, gall niwclear wneud cyfraniad hanfodol, a phosibl yn fasnachol, i gymysgedd ynni’r DU yn y dyfodol.

Hyd yn hyn, nid yw modelu system ynni llawn y DU sy’n dangos rôl niwclear y tu hwnt i gynhyrchu trydan – gan gynnwys hydrogen a thanwydd synthetig – wedi bodoli. Mae’r astudiaeth gyntaf o’i bath yn ychwanegu’n sylweddol i ddatblygiad cronfa ddata o senarios system ynni’r DU yn y dyfodol ac yn darparu tystiolaeth sydd ei angen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio strategaeth a pholisi ynni’r DU yn y dyfodol. “

Dywedodd Scott Milne, Pennaeth Mewnwelediadau yn “Energy Systems Catapult”:

“Mae ein dadansoddiad yn dangos, er mwyn cwrdd â sero -net yn y DU, mae’n rhaid cynyddu’n sylweddol gynhyrchiad o drydan, hydrogen a gwresogi ardal, sef y tri fector ynni sero carbon.

Mae’r modelu a wnaethom i LNC yn archwilio’r paramedrau cost a pherfformiad y buasai’n rhaid eu cyflawni gan ystod o dechnolegau niwclear er mwyn cyfrannu at – ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy, a carbon, dal a storio – ddatblygiad cyflym o’r tri fector ynni hynny.

Ar draws yr ystod o opsiynau technoleg a archwiliwyd yn y modelu, mae’r gallu i ddarparu cyd-gynhyrchu hyblyg o sawl fector ynni o adweithyddion unigol, yn cynnig gwerth arbennig. Mae ein dadansoddiad yn dangos sut y gall niwclear gynorthwyo i leihau ôl troed ffisegol cyffredinol y system ynni a chyfrannu at gyflawni sero-net ar gost isel i gymdeithas. ”

Dywedodd Kirsty Gogan, Rheolwr Gyfarwyddwr “LucidCatalyst”:

“Mae’r modelu hwn yn cyflwyno mewnwelediadau newydd gwerthfawr ar gyfer trawsnewidiad sero -net y DU. Yr oedd y cyfleoedd hyn naill ai wedi’u tangynrychioli’n llwyr – neu’n hollol absennol – wrth fodelu system ynni flaenorol. Mae cynnwys eu potensial o drawsffurfio yn cynnig persbectif newydd radical ar ein rhagolygon am ddatgarboneiddio fforddiadwy a chyflym.”

Dywedodd Eric Ingersoll, Rheolwr Gyfarwyddwr “LucidCatalyst”:

“Os gallwn gynhyrchu tanwydd amnewid glân ar raddfa, mae hyn yn lleihau maint y trawsffurfio sydd ei angen. Mae hyn yn fantais sylweddol o ran gostwng y buddsoddiad cyffredinol, aflonyddu a newid ymddygiad sy’n ofynnol i gynnal gwasanaethau ynni. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnig cyfle i ddatgysylltu egni o allyriadau heb gynyddu cost na lleihau perfformiad.”

I gael mynediad i’r modelu, cliciwch yma.