National Nuclear Laboratory

News

Thursday 1 July 2021

Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn agor ei safle ffurfiol cyntaf yng Nghymru

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi ffurfioli ei uchelgais i ymchwilio a datblygu yng Nghymru drwy lansio safle newydd yn Ynys Môn.

Mark Salisbury, LNC (NNL) Pennaeth Strategaeth Adweithyddion a Virginia Crosbie, AS Ynys Môn

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae buddsoddiad LNC yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol gyda chyfres o bartneriaethau gyda busnesau a sefydliadau addysgol Cymreig gan gynnwys Prifysgol Bangor. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn amlygu ymrwymiad LNC i ymgryfhau arloesi, buddsoddi a chyflogi gweithlu medrus yng Nghymru – un a fydd yn cyfrannu’n sylweddol i ymrwymiad y DU i sero-net.

Bydd cyflwyno swyddfa newydd LNC ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc) ar Ynys Môn yn darparu safle newydd lleol i LNC i atgyfnerthu ei uchelgais yng Nghymru ac yn cynorthwyo i gryfhau hanes cyflawniad da Cymru mewn technoleg niwclear.

Dywedodd Anne-Marie Trevelyan, Gweinidog Gwladol Busnes, Ynni a Thwf Glân:

“Mae Cymru wedi chwarae rôl flaenllaw yn y byd academaidd, mewn diwydiant ac ar draws y sector gyhoeddus wrth ddatblygu medrusrwydd technolegol a gwyddonol y DU ac yr wyf wrth fy modd fod LNC, Labordy Cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear, ar fin agor ei safle ffurfiol cyntaf yn Ynys Môn.

“Drwy wneud hyn, bydd LNC yn gallu datblygu’r gwaith ardderchog sydd ganddynt hwy ac eraill ar waith yn Ynys Môn i gyflawni ymrwymiad sero-net y DU, tra’n creu cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi a buddsoddi.”

Ychwanegodd Virginia Crosbie, AS Ynys Môn:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newydd calonogol i Ynys Môn ac mae’n arddangos sut y gall niwclear ddod â buddsoddiad a chynorthwyo i ddatblygu gweithlu medrus yng Nghymru.

“Heb niwclear, ni fydd y DU yn cyrraedd ei hamcanion sero-net. Mae’r datblygiad hwn yn darparu safle newydd, lleol i wireddu uchelgais LNC yng Nghymru ac sydd â chryn botensial i gefnogi’r labordy cenedlaethol i gyflawni ei fwriad o wyddoniaeth niwclear er budd cymdeithas.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwy’n croesawu’r cam pwysig hwn sy’n cael ei gymryd gan NNL heddiw i sefydlu presenoldeb yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae hyn yn dangos bod NNL yn cydnabod y potensial sy’n bodoli yng Nghymru ac yn gwybod am y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yma eisoes gan sefydliadau fel Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor. Rwy’n gobeithio y bydd y presenoldeb hwn yn tyfu dros amser er mwyn meithrin a chefnogi ymchwil a datblygu mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil a datblygu eraill ledled Cymru”.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

“Mae’r datganiad hwn o’r Labordy Niwclear Cenedlaethol i sefydlu safle newydd yng Ngogledd Cymru yn tanlinellu yr arbenigedd a’r cyfleoedd sydd yn yr ardal i hyrwyddo arloesi carbon isel mewn technolegau niwclear, i’w groesawu’n wresog.

“Bydd safle newydd y LNC yn cynorthwyo i gadarnhau yn bellach le Cymru wrth galon y trawsnewidiad sero-net, gan gyflawni yr uchelgais a nodais yng Nghynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru.”

Ychwanegodd Paul Howarth, Prif Weithredwr y Labordy Niwclear Cenedlaethol:

“Ar hyd a lled y DU, mae gennym y talent a’r cyfle i fod yn archbŵer gwyddonol byd-eang. Mae Cymru, ac yn arbennig Ynys Môn, yn leoliad allweddol i LNC fel yr ydym yn cynorthwyo i hybu twf cyffrous o fewn y sector niwclear.

“Er mwyn cydnabod effaith a gwerth Cymru – a’i ffocws cyfredol fel canolbwynt datblygiad niwclear – yr ydym yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r ardal a’i heconomi drwy gyflwyno swyddfa newydd LNC yn Ynys Môn.”

“Yr ydym yn gobeithio y bydd yn datblygu yn safle allweddol ar gyfer ein gwaith; gan harneisio gwyddoniaeth niwclear i gynorthwyo i ddatrys rai o heriau mwyaf y byd – o gyflawni datgarboneiddio dwfn i ddarparu gofal iechyd sy’n achub bywydau.”

Mae LNC yn cefnogi dros 1,100 o swyddi sy’n talu cyflogau uchel ac yn gofyn am fedrusrwydd o’r radd flaenaf ar hyd a lled sector niwclear y DU yn ogystal â meithrin y genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng prentisiaethau, a rhaglenni i raddedigion ac ôl- Ddoethuriaeth. Mis diwethaf lansiodd LNC ei Cynllun Strategaeth sy’n amlygu sut y bydd labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn fuddiol i gymdeithas drwy wyddoniaeth niwclear.